Mae gan bob clwb a chymdeithas dri aelod craidd o'r pwyllgor: Llywydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd. Yma gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Drysorydd grwp myfyrwyr…
Rôl: Trysorydd
Ymrwymiad / Hyd y Swydd: Swydd etholedig am hyd at un flwyddyn academaidd
Angen profiad blaenorol: dim o gwbl; caiff pob hyfforddiant ei ddarparu.
Diben y rôl
Rôl y trysorydd yw rheoli cyfrifon y clwb/cymdeithas, gan sicrhau bod pob anfoneb yn cael ei llofnodi a'i thalu mewn modd amserol a bod y clwb/cymdeithas yn parhau i fod yn sefydlog yn ariannol trwy gydol y flwyddyn.
Cyfrifoldebau cyffredin
- Gofalu am arian y clwb/cymdeithas o fewn swyddfa gyllid UMAber
- Sicrhau bod yr holl arian a dderbynnir yn cael ei dalu i gyfrif y clwb/cymdeithas trwy swyddfa gyllid UMAber
- Cadw a chynnal cofnodion ariannol er mwyn sicrhau bod gan y clwb/cymdeithas ddigon o arian
- Cadw rhestr o unrhyw adnoddau ac offer y mae'r gymdeithas yn berchen arnynt
- Mynychu sesiwn sefydlu ac unrhyw hyfforddiant ychwanegol a ddarperir gan yr UM
Sut fydd hyn o fantais i chi
Dyma'ch cyfle i gyflawni rôl flaenllaw mewn Clwb neu Gymdeithas sy’n golygu llawer i chi, i helpu i'w ddatblygu i sicrhau ei fod y gorau y gall fod. Wrth wneud hyn byddwch yn cael cwrdd a gweithio gyda myfyrwyr eraill o'r un anian, yn ogystal â datblygu eich sgiliau, gwybodaeth a chyflogadwyedd cyffredinol eich hun, yn ogystal â'ch aelodau, trwy amrywiaeth o gyfleoedd.
Yn sgil bod yn aelod o'r pwyllgor, byddwch hefyd yn ennill cydnabyddiaeth am eich oriau gwirfoddoli a’ch sgiliau trwy weithio tuag at Wobr Aber. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gael eich enwebu am wobr fel rhan o'r Gwobrau Chwaraeon neu Gymdeithasau.
Pam rydyn ni eich eisiau CHI?
Rydyn ni am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn addo’ch darparu â chyfleoedd i ddod o hyd i'ch Cymuned Aber, eich cynorthwyo i fod yn hapus ac yn iach, a helpu i dyfu eich sgiliau a'ch profiadau. Mae Tîm Aber yn cwmpasu cymaint o hyn, felly os ydych chi'n angerddol am eich Clwb/Cymdeithas, rydyn ni am weithio gyda chi i wireddu'r weledigaeth hon. Does dim ffordd well o wneud hyn na chael eich ethol i bwyllgor. Trwy ddod yn aelod o bwyllgor, byddwch wedi'ch ethol fel y person gorau i gyflawni'r rôl o'ch dewis.
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?
Cysylltwch ag aelod o'r Tîm Cyfleoedd:
Cydlynydd Datblygu Cymdeithasau - Tom (thm35@aber.ac.uk)
Cydlynydd Chwaraeon - Emily (ems47@aber.ac.uk)
Sylwch y gall cyfrifoldebau pob rôl amrywio rhwng clybiau a chymdeithasau. Gallwch weld eu cyfansoddiad unigol ar eu tudalen we, neu cysylltwch ag aelod o'r pwyllgor cyfredol.
Sefyll |
Pleidleisio |
Yn agor 10am dydd Llun 15fed Mawrth tan 10am dydd Llun 19eg Ebrill |
Bydd y pleidleisio'n dechrau am 10am ddydd Llun 26ain Ebrill tan 3pm ddydd Gwener 30ain Ebrill |