Proffiliau Rolau Pwyllgor: Llywydd

Mae gan bob clwb a chymdeithas dri aelod craidd o'r pwyllgor: Llywydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd. Yma gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Llywydd grwp myfyrwyr…

ClubscommitteeElectionsSocietiesSportsSports ClubsTîmAberwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae gan bob clwb a chymdeithas dri aelod craidd o'r pwyllgor: Llywydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd. Yma gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Llywydd grwp myfyrwyr…

Rôl: Llywydd (neu rôl gyfatebol)
Enw amgen: Cadeirydd
Ymrwymiad / Hyd y Swydd: Swydd etholedig am hyd at un flwyddyn academaidd
Profiad blaenorol sydd ei angen: Dim o gwbl; caiff pob hyfforddiant ei ddarparu

 

Diben y rôl

Y Llywydd (neu rôl gyfatebol) fydd y prif bwynt cyswllt ar gyfer cyfathrebu allanol â phob grwp ac unigolyn allanol. Mae hyn yn cynnwys UMAber. Chi sy'n gyfrifol yn y pen draw am redeg y pwyllgor a'r clwb/cymdeithas yn ddi-ffwdan ac yn effeithiol.

 

Cyfrifoldebau cyffredin

  • Arwain mewn ffordd sy’n ysgogi eraill a dirprwyo tasgau er mwyn sicrhau bod y pwyllgor a'r clwb/cymdeithas yn rhedeg yn esmwyth
  • Recriwtio aelodau newydd a chadw’r rhai presennol
  • Sicrhau iechyd a diogelwch aelodau
  • Cynnal cyfathrebiadau rhwng UMAber a’r aelodau
  • Goruchwylio cyllid y clwb/cymdeithas
  • Cynnal etholiadau yn ôl yr angen, yn unol â'r cyfansoddiad
  • Mynychu sesiwn sefydlu ac unrhyw hyfforddiant ychwanegol a ddarperir gan yr UM

 

Sut fydd hyn o fantais i chi

Dyma'ch cyfle i gyflawni rôl flaenllaw mewn Clwb neu Gymdeithas sy’n golygu llawer i chi, i helpu i'w ddatblygu i sicrhau ei fod y gorau y gall fod. Wrth wneud hyn byddwch yn cael cwrdd a gweithio gyda myfyrwyr eraill o'r un anian, yn ogystal â datblygu eich sgiliau, gwybodaeth a chyflogadwyedd cyffredinol eich hun, yn ogystal â'ch aelodau, trwy amrywiaeth o gyfleoedd.

Yn sgil bod yn aelod o'r pwyllgor, byddwch hefyd yn ennill cydnabyddiaeth am eich oriau gwirfoddoli a’ch sgiliau trwy weithio tuag at Wobr Aber. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gael eich enwebu am wobr fel rhan o'r Gwobrau Chwaraeon neu Gymdeithasau.

 

Pam rydyn ni eich eisiau CHI?

Rydyn ni am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn addo’ch darparu â chyfleoedd i ddod o hyd i'ch Cymuned Aber, eich cynorthwyo i fod yn hapus ac yn iach, a helpu i dyfu eich sgiliau a'ch profiadau. Mae Tîm Aber yn cwmpasu cymaint o hyn, felly os ydych chi'n angerddol am eich Clwb/Cymdeithas, rydyn ni am weithio gyda chi i wireddu'r weledigaeth hon. Does dim ffordd well o wneud hyn na chael eich ethol i bwyllgor. Trwy ddod yn aelod o bwyllgor, byddwch wedi'ch ethol fel y person gorau i gyflawni'r rôl o'ch dewis.

 

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?

Cysylltwch ag aelod o'r Tîm Cyfleoedd:
Cydlynydd Datblygu Cymdeithasau - Tom (thm35@aber.ac.uk)
Cydlynydd Chwaraeon - Emily (ems47@aber.ac.uk)

 

Sylwch y gall cyfrifoldebau pob rôl amrywio rhwng clybiau a chymdeithasau. Gallwch weld eu cyfansoddiad unigol ar eu tudalen we, neu cysylltwch ag aelod o'r pwyllgor cyfredol.

 

Sefyll Pleidleisio
Yn agor 10am dydd Llun 15fed Mawrth tan 10am dydd Llun 19eg Ebrill Bydd y pleidleisio'n dechrau am 10am ddydd Llun 26ain Ebrill tan 3pm ddydd Gwener 30ain Ebrill

 

 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576