Mwynhau Wythnos y Glas yn Ddiogel

Mae UMAber eisiau i chi garu bywyd myfyriwr. Mae hynny'n golygu cael y cyfle i gael hwyl a chymryd rhan mewn cyfleoedd newydd, ond mae hefyd yn golygu edrych ar ôl eich lles.

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae UMAber eisiau i chi garu bywyd myfyriwr. Mae hynny'n golygu cael y cyfle i gael hwyl a chymryd rhan mewn cyfleoedd newydd, ond mae hefyd yn golygu edrych ar ôl eich lles.

 

Dylai dechrau yn y brifysgol fod yn brofiad anhygoel a dylai Wythnos y Glas fod yn fythgofiadwy am y rhesymau cywir yn unig! Rydym yn drist iawn os rydym yn clywed am brofiad negyddol yn Aber ac yn gwneud ein gorau i’w hatal, yn enwedig pan fydd yn ystod un o’n digwyddiadau, neu un a drefnir gan un o’n grwpiau myfyrwyr.

Credwn y dylid fod croeso i holl fyfyrwyr yn pob un o'n ddigwyddiadau a grwpiau. Ni chewch eich gwahardd os nad ydych am gymryd rhan mewn gweithgaredd. Gall fod llawer o bwysau gan gyfoedion ar fyfyrwyr eraill – ond ni ddylech fyth wneud rhywbeth nad ydych yn gyfforddus efo. Gofynnwn i’n holl fyfyrwyr gadw hyn mewn cof a gwneud i bawb deimlo’n groeso ac yn ddiogel.

Os oes angen cyngor arnoch ar ymgartrefu, edrychwch ar y tudalennau isod:

https://www.umaber.co.uk/cyngor/

https://www.umaber.co.uk/cyngor/iechydallesiant/diogelynaber/

https://www.umaber.co.uk/cyngor/iechydallesiant/alcoholachyffuriau/

 

Rydym yn atgoffa ein holl fyfyrwyr y gall seremonïau "initiations" a gweithgareddau sy’n hybu goryfed alcohol fod yn beryglus a’ch rhoi chi ac eraill mewn ffordd niwed, a gall hyn fod yn waradwyddus neu ddiraddiol. Mae pob myfyriwr yn llofnodi set o Reolau a Rheoliadau y gellid eu torri trwy drefnu, neu hyd yn oed gymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath. Pan aiff pethau o chwith, mae gennym weithdrefn adrodd a chwyno i helpu i wneud pethau'n well.

 

Cofiwch mai dim ond dechrau eich pennod nesaf yma yn Aber yw wythnos y glas. Bydd digonedd o gyfleoedd trwy gydol y flwyddyn i gwrdd â phobl newydd a chael hwyl.

 

Sicrhewch eich bod yn cadw'n ddiogel ac yn gofalu am eich gilydd.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576