Mis Hanes LHDT+

Mis Hanes LHDT+ 2020

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae'n bryd dathlu Mis Hanes LHDT+ a bydd llu o ddigwyddiadau i edrych ymlaen atynt yn dechrau’r wythnnos nesaf!

 

Mae Aberration yn cynnal diwrnod cyfan o ddigwyddiadau ar thema ‘Cwîar’ i bawb yn Aberystwyth ddydd Sadwrn 8fed Chwefror 2020. Mae digwyddiadau eleni yn ymwneud yn benodol â hunaniaeth LHDT+ a hil.

 

  • 1.30-3.30pm Taith Gerdded Hanes LHDT+ o amgylch Aberystwyth. Cyfarfod yn Amgueddfa Ceredigion lle bydd eich tywysydd, Jane Hoy o Hanes Byw Cymru, yn mynd â chi ar daith o amgylch Aberystwyth yn cwrdd â chymeriadau LHDT+ o'r gorffennol, o Sarah Jane Rees i Goronwy Rees. Gallwch ddisgwyl yr annisgwyl! Croeso i bawb. (Y tu mewn yn yr amgueddfa os yw'n rhy wlyb a gwyntog.) Yn gyfyngedig i 20 lle. Archebwch eich tocynnau am ddim ar-lein o Amgueddfa Ceredigion.

 

  • 4.30-6.30pm Gweithdy yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth: Mae Yasmin Begum a Laolu Alatise yn awduron, artistiaid ac ymgyrchwyr sy’n gweithio yng Nghaerdydd. Fel aelodau o gymdeithas Terfysgoedd Hil 1919, byddant yn cynnal gweithdy llunio-cylchgrawn i ymchwilio i syniadau cyffrous am hunaniaeth, iaith, hanes a chof diwylliannol Cymru, gyda phwyslais ar gynhwysiant a hygyrchedd. (Cylchgronau neu lyfrynnau creadigol yw’r rhain, sydd ddim yn ddibynnol ar dechnoleg) Cyfarfod yn y Swyddfa Docynnau am 4.20pm i fynd i Stiwdios Creadigol 5 & 6 (pod arian). £5 / £3 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

 

  • 7.45pm Aberration yn cyflwyno: Noson 'Sêr Aeth yn Angof' yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth (Stiwdio): sgyrsiau, caneuon a straeon bywiog o hanes LHDT+. Mewn cyflwyniad arbennig, bydd Yasmin Begum & Laolu Alatise (sydd hefyd yn arwain gweithdy, uchod) yn defnyddio lens Terfysgoedd Hil 1919 i daflu goleuni ar gymunedau croenddu a lleiafrifoedd ethnig a phobl ‘cwîar’ groenddu yng Nghymru.

Bydd Alison Child yn siarad am yr ymchwil ar gyfer ei bywgraffiad newydd 'Tell Me I'm Forgiven', am y ddeuawd oedd yn arfer bod yn enwog yn y neuaddau cerddoriaeth (ac yn bâr yn yr ystyr rhamantus) Gwen Farrar a Norah Blaney. Bydd Ali a'i chymar Rosie Wakley yn canu rhai o'r caneuon yr arferai Gwen a Norah eu canu.

Ynghyd â straeon gan Queer Tales from Wales: merched y gweithfeydd copr, reslwyr benywaidd a dynion mewn tai pinc.  Tocynnau £10 / £8 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

 

Os ydych chi am fynychu unrhyw un o'r digwyddiadau hyn, yna gwnewch yn siwr eich bod chi'n archebu'ch tocynnau nawr er mwyn osgoi cael eich siomi!

 

A chofiwch y bydd mwy o ddigwyddiadau'n cael eu hysbysebu ar ein gwefan a'n cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y mis - felly gwyliwch allan am y rhain :) 

Am mwy o wybodaeth. 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576