Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor: Matt Owen

ClubscommitteeElectionsSocietiesSportsSports ClubsTeamAberwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?

Dwi wedi bod yn rhan o’r Gymdeithas Pong Cwrw a hefyd yn Is-lywydd yn ystod 20-23, Ysgrifenydd Cymdeithasol am dua 3 mis dros Haf ‘21 a llywydd yn ystod 21-23

 

Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?

Yn fy mlwyddyn gyntaf, roedd y pwyllgor Cymdeithas Pong Cwrw mor groesawgar a gwneud i fi deimlo mor gartrefol yn y Brifysgol. Mae’n gam mawr ar ôl yr ysgol Uwchradd ac mae’r newid yn gallu codi ofn, yn enwedig gyda’r holl fwrlwm o gwrdd â phobl a ffrindiau newydd. Helpodd y pwyllgor a’r gymdeithas lawer o bobl trwy’r cam cyntaf pwysig ac yna helpu magu hyder a sgiliau cymdeithasol pobl i ddod allan o’u cylch cysur. Sefais i fod yn aelod pwyllgor oherwydd fy mod i am i bawb gael yr un croeso a mwynhad yn eu blwyddyn gyntaf fel y cefais innau. 

 

Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?

Delio gyda noddwyr a helpu’r ardal leol yn nhermau’r Wythnos RAG a siarad gyda thafarndai a chlybiau fel Bar 46, Harlery’s a Pier. Mae’r agwedd gymdeithasol a mynd allan bob nos Fercher wastad wedi bod yn llawer o hwyl. Ond o bell ffordd y pleser mwyaf o fod ar y pwyllgor yw bod yn rhan o rywbeth mwy, pan fyddaf yn clywed pobl yn mwynhau eu hunain a sut maen nhw’n mwynhau bod yn rhan o’r gymdeithas a sut mae’n mynd yn iawn yn y Brifysgol. Hefyd mae gweld pobl yn credu ynddyn nhw eu hunain wrth roi ychydig o ysgogiad i fwrw eu hunan i siarad yn gyhoeddus, siarad gyda’r cyhoedd ynglyn â gwerthu pethau i godi arian a cwrdd ag eraill.

 

Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?

Mae rhai agweddau yn anodd, yr her mwyaf yw cyfathrebu pethau y tu mewn a’r tu allan i'r gymdeithas. Mae cyfathrebu yn angenrheidiol 100% a bod rhaid iddo fod yn gadarnhaol. Byddaf yn gweld fy rôl yn heriol pan nad oes cyfathrebu, lle mae pobl yn cael eu gadael heb yn wybod beth i'w wneud neu pan na fyddaf innau yn gwybod rhywbeth. Ond does dim lawer o weithiau pan fydd y rôl yn heriol ynddi’i hun.

 

Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?

Yn hollol, dwi wedi gweld fy sgiliau a’m hyder yn tyfu. Mae gen i ddealltwriaeth o’r pethau y gallaf eu gwneud, fel y dywedais i o’r blaen, mae siarad yn gyhoeddus wedi dod yn llawer haws gennyf i.

 

Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?

Mae rhaid i chi’ch bwrw eich hun iddi, a mynd amdani. Nid yw llawer o bobl yn hoffi mynd at eraill neu dynnu eu sylw a chychwyn y sgwrs gyntaf yna (sydd ei hangen pan yn mynd i Ffair y Glas), efallai byddwch yn dod ar draws fel twpsyn am 2 funud neu efallai byddwch yn llwyddo i annog rhywun i ymaelodi â’ch cymdeithas. Deuparth gwaith yw ei ddechrau, fe’i helpodd i fi ddatblygu yn nhermau hyder. 

 

 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576