Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor: James Young

ClubscommitteeElectionsSocietiesSportsSports ClubsTeamAberwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?

Ar hyn o bryd fi yw Llywydd Clwb Tenis Prifysgol Aberystwyth, ac rwyf hefyd wedi bod yn Ysgrifennydd Cymdeithasol am y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?

Roeddwn i eisiau ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb a chael effaith uniongyrchol ar redeg y clwb i helpu i'w wneud yn brofiad pleserus a chyfeillgar i fyfyrwyr eraill.

 

Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?

Fel aelod o'r pwyllgor rydych chi'n cael cwrdd ag aelodau newydd a darpar aelodau a helpu i’w rhoi ar ben y ffordd, ac mae'n foddhaol iawn gweld eich gwaith caled yn talu ar ei ganfed; er enghraifft sicrhau sesiynau ychwanegol i'r clwb, neu hyd yn oed gyfleusterau newydd i helpu â gwella profiad y clwb cyfan.

 

Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?

Ar y cyfan, nid yw bod ar y pwyllgor wedi golygu gormod o heriau, gan ein bod i gyd wedi cydweithio'n dda. Fodd bynnag, ar ddechrau'r pandemig roeddem yn dal i ddefnyddio cyrtiau tenis y dref a chafwyd rhywfaint o wahaniaeth barn â nhw ynghylch cyllid a’r amseroedd roeddem yn cael archebu eu cyrtiau tenis. Fel pwyllgor roedd yn rhaid i ni benderfynu a ddylen ni aros gyda nhw neu o bosib dod o hyd i gyfleusterau ein hunain. Fel Llywydd, cewch fwrw pleidlais i ddatrys y mater pan ddaw pleidlais y pwyllgor i ben yn gyfartal, ac er bod hyn yn frawychus ar y dechrau, penderfynais ddod o hyd i gyfleusterau eraill ar gyfer cynnal sesiynau’r clwb. Golygodd hyn lawer o heriau i ni ar ffurf prisiau aelodaeth newydd a sut y gallem sicrhau bod y cyfleusterau newydd yn ddigon da i chwarae arnynt a.y.b. ond trwy weithio fel tîm, a gyda chefnogaeth yr UM a'r Ganolfan Chwaraeon, rydym wedi llwyddo cael trefn ar bopeth.

 

Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?

Yn bendant! Mae bod ar bwyllgor yn helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fel gwaith tîm ac arweinyddiaeth, ac mae’n edrych yn wych ar eich CV ar gyfer gyflogwyr yn y dyfodol.

 

Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?

Fy nghyngor i fyddai sicrhau eich bod chi'n drefnus fel y gallwch chi gynllunio'n gynnar ar gyfer digwyddiadau fel ffair y glas a sicrhau eich bod chi'n gweithio gyda'r holl bwyllgor gan roi ystyriaeth i’w barn. Nawr y gallwn ni ddechrau gweld diwedd y pandemig, mae yna lawer o gyfleoedd i wneud eich clybiau'r gorau y gallant fod, felly gwnewch y mwyaf o'r amser nawr i gynllunio sesiynau a digwyddiadau posib.

 

Sefyll Pleidleisio
Yn agor 10am dydd Llun 15fed Mawrth tan 10am dydd Llun 19eg Ebrill Bydd y pleidleisio'n dechrau am 10am ddydd Llun 26ain Ebrill tan 3pm ddydd Gwener 30ain Ebrill

 

 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576