Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?
Rwy'n perthyn i 2 gymdeithas: Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth (ACV) a’r Gymdeithas Ffantasi a Ffuglen Wyddonol (SF&FS). Rwyf wedi bod yn Swyddog Cymdeithasol a Chyhoeddusrwydd ACV ac yn Ysgrifennydd SF&FS. Ar hyn o bryd rwyf yn Ysgrifennydd ACV ac yn Llywydd SF&FS.
Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?
Sefais ar gyfer rôl Ysgrifennydd ACV, gan y bydd hyn o fudd i'm gyrfa yn y dyfodol - mae'r sgiliau rydw i wedi'u hennill a'r cysylltiadau rydw i wedi'u ffurfio’n ategu fy ngradd a fy nyheadau ar gyfer gyrfa yn y dyfodol yn gweithio yn y sector amgylcheddol. Dewisais ddod yn rhan o bwyllgor SF&FS, gan fod hyn yn apelio at fy ochr nerdy, a hoffwn gadw'r gymdeithas fach hon i fynd ac ychwanegu fy mewnbwn o ran fy newis o'r genre ffantasi.
Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?
Cyfarfod â phobl o’r un anian - boed hynny allan yn y maes yn rhyfeddu ar blanhigyn prin fel rhan o weithgareddau ACV, neu'n gwylio ffilm a thynnu sylw at yr holl bwyntiau nerdy yn SF&FS.
Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?
Mae ACV fel arfer yn cynnig sawl her, o drefnu tasgau gyda grwpiau allanol, i weithio allan pa fws fydd yn mynd â chi i warchodfa natur yng nghanol nunlle!
Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?
Fel y soniwyd yn flaenorol, bydd fy amser gydag ACV yn fy mharatoi’n i raddau helaeth ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol, drwy’r sgiliau a’r cysylltiadau rwyf wedi’u meithrin. Fodd bynnag, mae’r sgiliau rwyf wedi’u dysgu wrth fod yn aelod pwyllgor yn mynd y tu hwnt i hynny, gan gynnwys amrywiaeth o sgiliau meddal trosglwyddadwy, fel arweinyddiaeth, gwaith tîm, cyfathrebu a rheoli amser, o ganlyniad i berthyn i’r naill gymdeithas a’r llall.
Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?
Peidiwch â bod ofn bod yn agored a rhannu unrhyw broblemau y gallech eu hwynebu unwaith y byddwch chi’n rhan o bwyllgor - gyda’ch cyd-aelodau o’r pwyllgor neu aelodau ehangach. Mae cymdeithasau yn deulu ynddynt eu hunain - bydd gan rywun y set sgiliau neu'r wybodaeth a'r ateb i'ch problem.
Sefyll |
Pleidleisio |
Yn agor 10am dydd Llun 15fed Mawrth tan 10am dydd Llun 19eg Ebrill |
Bydd y pleidleisio'n dechrau am 10am ddydd Llun 26ain Ebrill tan 3pm ddydd Gwener 30ain Ebrill |