Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor: Dan Skerman

ClubscommitteeElectionsSocietiesSportsSports ClubsTeamAberwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?

Yn fy 2il flwyddyn roeddwn yn Drysorydd y Clwb Mynydda, a bellach yn fy 3edd flwyddyn, rwy'n Ysgrifennydd Cymdeithasol

 

Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?

Roeddwn i eisiau helpu i roi yn ôl i glwb a roddodd gymaint i mi. Fe wnes i hefyd fwynhau'r cyfle i weithio ar rai sgiliau meddal (fel trefnu digwyddiadau) y tu allan i fy nghwrs gradd. 

 

Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?

Cael cyfle o greu effaith wirioneddol ar sut mae'r clwb yn cael ei redeg a gallu darparu gwasanaeth rydych chi'n gwybod bod eich ffrindiau'n ei werthfawrogi. 

 

Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?

Mae Covid wedi bod yn heriol i ni i gyd, ond roedd yn anodd addasu a cheisio darparu digwyddiadau cymdeithasol o safon ar-lein; roedd yn dipyn o her cadw digwyddiadau cymdeithasol yn hwyl ac yn ddifyr.

 

Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?

100%, mae wedi rhoi rhywbeth i mi ysgrifennu amdano ar fy CV.

 

Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?

Peidiwch â phoeni’r ormodol, bydd y rôl yn dod yn haws ac mae gennych chi aelodau eraill o’r pwyllgor y gallwch chi ofyn am eu help os oes angen cymorth arnoch chi gyda thasgau. 

 

Sefyll Pleidleisio
Yn agor 10am dydd Llun 15fed Mawrth tan 10am dydd Llun 19eg Ebrill Bydd y pleidleisio'n dechrau am 10am ddydd Llun 26ain Ebrill tan 3pm ddydd Gwener 30ain Ebrill

 

 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576