Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor: Ben Barr & Callum Eaton

ClubscommitteeElectionsSocietiesSportsSports ClubsTeamAberwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?

Mae'r ddau ohonom yn aelodau o bwyllgor Clwb Mynydda Aberystwyth, fel Llywydd ac Is-Lywydd

 

Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?

Roeddem am helpu i roi yn ôl i'r clwb, gan ein bod wedi cael rhai o'r profiadau prifysgol gorau gyda'r clwb, ac roeddem am gynnig yr un profiadau a chyfleoedd anhygoel i aelodau newydd.

 

Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?

Bod yn gallu trosglwyddo ein gwybodaeth i aelodau newydd a rhoi profiadau newydd i bobl nad ydyn nhw erioed wedi'u cael o'r blaen, fel abseilio neu ddringo am y tro cyntaf.

 

Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?

Gyda chymaint o las-fyfyrwyr yn ymuno ar ddechrau'r flwyddyn, roedd yn heriol trefnu ein digwyddiadau cymdeithasol cyntaf yn unol â'r rheoliadau covid a sicrhau bod pawb yn deall pwysigrwydd cadw at y canllawiau hynny. Fe wnaethom hefyd wynebu'r her o gadw rhai o aelodau’n pwyllgor yn llawn cymhelliant yn eu rolau pan olygodd covid nad oedd modd cynnal digwyddiadau cymdeithasol, cystadlaethau a theithiau a fyddai wedi digwydd fel rheol.

 

Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?

Ben: Mae wedi dangos i mi'r ffordd orau o reoli grwpiau mawr o bobl ar yr un pryd a phwysigrwydd gweithio'n dda fel tîm i oresgyn sefyllfaoedd anodd.

Callum: Mae arwain ac addysgu grwpiau yn yr awyr agored wedi bod o fudd mawr i mi, gan fy mod i’n awyddus i ddilyn gyrfa yn y diwydiant awyr agored ar ôl gorffen yn y brifysgol.

 

Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?

Er ei bod yn bwysig bod â phwyllgor cryf i arwain y ffordd ac addysgu aelodau'r dyfodol, ceisiwch beidio â chymryd pethau'n rhy ddifrifol. Clwb prifysgol yw hwn ac rydych chi i fod i gael eich blynyddoedd gorau fel aelod ohono. Mae’n bwysig: Byw, Chwerthin, Caru, Dringo.

 

Sefyll Pleidleisio
Yn agor 10am dydd Llun 15fed Mawrth tan 10am dydd Llun 19eg Ebrill Bydd y pleidleisio'n dechrau am 10am ddydd Llun 26ain Ebrill tan 3pm ddydd Gwener 30ain Ebrill

 

 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576