Better Ventilation, Mold Prevention, and Outdoor Spaces Secured

welsh

Yr wythnos ddiweddaf, cwrddom â’r Is-Ganghellor, yr Athro Jon Timmis, y Prif Swyddog Ariannol, Simon Crick, a Phennaeth yr Adran Ystadau, Steve Anstee i drafod tai myfyrwyr. O ganlyniad i’r cyfarfod, mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y Brifysgol wedi cytuno:

1) Fehefin 1af 2025, caiff meinciau eu gosod y tu allan i adeiladau Cwrt Mawr i fyfyrwyr allu cymdeithas tu allan i’w llety.
2) Mae systemau awyru Cwrt Mawr am gael eu glanhau yn amlach gan sicrhau awyru digonol i helpu atal lleithder, llwch a llwydni rhag cynyddu.
3)  Gweithio gydag Undeb Aberystwyth ar gynllun i atal a lleihau effaith yr holl lwydni du mewn llety myfyrwyr erbyn diwedd y flwyddyn academaidd 2025-26.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio ar y cyd gyda’r Brifysgol i weithredu’r cynllun hwn.

Mae’r ymrwymiadau hyn yn ffrwyth proses flwyddyn o hyd o drefnu cymunedol gyda Citizens UK: gwrando ar fyfyrwyr, adnabod materion y mae modd eu datrys, a chymryd camau.

I nodi’r achlysur, byddwn yn cynnal dathliad awyr agored wrth y meinciau newydd y tu allan i Gwrt mawr am 4yh fis Mehefin 10fed.
 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576