Bywyd cyfrinachol cynrychiolydd i'r gynhadledd…

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Gofynnom ni i un o'n cyn-gynrychiolwyr i roi cipolwg ar sut mae mynychu Cynhadledd Genedlaethol UCM...

Dwi'n mwynhau bod yn gynrychiolydd i'r gynhadledd. Dydy eich amser fel cynrychiolydd ddim yn dechrau unwaith i chi gyrraedd y lleoliad, mae'n dechrau fisoedd cyn sefyll yr etholiad. Roedd hyn yn gyffrous iawn gan yr oedd rhaid i mi ddarbwyllo pobl y byddwn i'n gynrychiolydd da ac esbonio pam roeddwn i'n haeddu mynd yn lle'r bobl eraill oedd yn sefyll. Ar ôl cael fy ethol, roeddwn i'n gwybod bod gen i dipyn bach o amser cyn gorfod meddwl amdani eto, ond roeddwn i'n awyddus iawn i ddweud wrth fy nheulu a ffrindiau fod gan fyfyrwyr Aber ddigon o ffydd i fy anfon i Gynhadledd Genedlaethol UCM. Nid dyma'r tro cyntaf i mi gael fy ethol i fynd i Gynhadledd Genedlaethol UCM; es i pan oeddwn i'n swyddog rhan amser yn undeb myfyrwyr fy ngholeg a gwnes i wirioni arno bryd hynny, felly roeddwn i'n gwybod fy mod yn mynd i fwynhau'r profiad eto.

Pan glywais i ein bod ni fel cynrychiolwyr Aber yn teithio ar y trên, doeddwn i ddim yn edrych ymlaen ato ac roeddwn i'n meddwl 'ydy'r undeb wir yn credu mai dyma'r ffordd orau o deithio'r' fath bellter. Unwaith i mi gamu ar y trên, sylweddolais y byddai hi'n daith hir iawn, ond rhoddodd hynny gyfle i mi edrych ar yr holl gynigion a fyddai'n mynd at bleidlais yn y gynhadledd ac wrth edrych yn ôl, dwi mor falch ces i'r amser hwn.

Unwaith i ni gyrraedd y Gynhadledd, y peth cyntaf gwnaethom ni oedd dod o hyd i'r gwesty. Yna penderfynom ni dreulio gweddill y noson yn crwydro a cheisio dod o hyd i rywbeth i'w fwyta a mynd i'r gwely'n gynnar ar ôl diwrnod hir o deithio. Llwyddais i gael bwyd ac es i â hwnnw yn ôl i fy ystafell, yna gwyliais i ffilm ac roeddwn i'n cysgu erbyn 10pm.

Roedd y diwrnodau nesaf yn anhygoel. Cafodd llawr y gynhadledd ei rannu'n rhanbarthau, felly eisteddom ni gyda chynrychiolwyr eraill o UMau Cymru, yn ogystal â Swyddogion UCM Cymru. Roeddwn i'n adnabod rhywfaint o bobl, ond roedd hi'n braf cael cyfle i gwrdd â phobl newydd a chlywed eu barn ar y materion oedd yn cael eu trafod. Cafodd pob cynrychiolydd gerdyn pleidleisio a chyfle i bleidleisio o blaid, yn erbyn neu ymatal rhag pob cynnig ar lawr y gynhadledd. Mae pleidlais y cynigion yn cael ei rhannu gan wahanol sesiynau ymylol. Yn aml, mae'r rhain yn rhoi cyfle i'r cynrychiolwyr gael diod a byrbrydau yn ogystal â chyfle gwych i gael gwell dealltwriaeth o'r materion sy'n cael eu trafod yn y gynhadledd.

Nid yn unig mae'r cynrychiolwyr yn pleidleisio ar gynigion, ond dyma pryd bydd swyddogion llawn amser UCM yn cael eu hethol, felly y tu hwnt i lawr y gynhadledd bydd ymgeiswyr y gwahanol rolau'n dod atoch chi i ddweud pam dylech chi bleidleisio drostynt. Yna caiff pob cynrychiolydd gyfle i bleidleisio dros y rolau hyn a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar lawr y gynhadledd ar ôl cyfri'r holl bapurau pleidleisio.

Ar y cyfan, byddai'n rhaid dweud fy mod i wedi mwynhau fy amser fel cynrychiolydd i'r Gynhadledd Genedlaethol a dwi'n argymell unrhyw un i sefyll gan mai dyma un o brofiadau gorau fy mywyd. Roedd teithio o Aber yn her ond ble bynnag mae'r Gynhadledd Genedlaethol yn cael ei chynnal, roedd hyn yn mynd i fod yn broblem felly peidiwch â gadael i hon eich trafferthu chi.

Meddwl am Sefyll? Ddarllenwch mwy yma. 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576