Byddwch yn wyliadwrus o dudalennau a digwyddiadau Facebook y glas answyddogol

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Tua’r adeg hon o'r flwyddyn, mae grwpiau neu dudalennau answyddogol ar gyfer y Glas yn dechrau ymddangos ar Facebook. Caiff llawer o'r rhain eu creu gan hyrwyddwyr neu gwmnïau i gasglu manylion personol ac i elwa o werthu tocynnau ar gyfer digwyddiadau maen nhw wedi'u trefnu.

Nid ni na'r Brifysgol sy'n gweithredu'r tudalennau hyn, a gallech golli arian drwy ymuno â nhw. Yn aml, caiff gwybodaeth ei phostio gan gyfrifon ffug sy'n hyrwyddo digwyddiadau'r Glas answyddogol, ac mae'n bosib nad yw'r rhain yn bodoli o gwbl.

Beth allai wneud os welai ddigwyddiad neu dudalen Facebook answyddogol?

Os gwelwch gynnig neu ddigwyddiad ar werth nad yw ar ein gwefan nac ar ein sianeli cymdeithasol, gwiriwch gyda ni'n gyntaf – neu gyda'r Brifysgol – cyn i chi dalu unrhyw arian, a pheidiwch â rhannu unrhyw fanylion personol ar-lein.

Bydd ein digwyddiadau yn cael eu rhestru ar y dudalen digwyddiadau.

Mae ein swyddogion a'n staff wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych chi trwy ein tudalen Facebook a thrwy e-bost (undeb@aber.ac.uk

Sut ydw i’n gwybod os ydi’r digwyddiad yn un swyddogol?

Cyhoeddir holl ddigwyddiadau swyddogol y Glas ar ein tudalen Facebook a'n gwefan www.umaber.co.uk, bydd yna ddisgrifiad dwyieithog, a bydd yn dangos logo swyddogol yr UM.

Pa ddigwyddiadau swyddogol sy’n digwydd?

Rydym ni’n gweithio gyda Gwasanaethau masnachol y Brifysgol i westeio amrywiaeth o ddigwyddiadau wyneb i wyneb a rhithiol o dan yr enw ‘Helo Aber’.

Mae rhestr digwyddiadau ar gael ar y dudalen digwyddiadau.

Ar gyfer y mwyafrif o ddigwyddiadau, gellir archebu tocyn ar ein gwefan (sydd yn defnyddio manylion cyfrifiadurol y brifysgol ac felly’n ffordd saff o archebu tocyn).

Rydym hefyd yn gwesteio yr unig dudalen Facebook swyddogol Glasfyfyrwyr Aberystwyth – sy’n cael ei redeg gan y tim swyddogion a staff.


Sianeli swyddogol

Tudalen Facebook Undeb y Myfyrwyr

Grwp Facebook Swyddogol y Glas ar gyfer 2021/22

Tudalen digwyddiadau

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576