Unwaith eto eleni, rydym yn chwilio am fyfyrwyr i helpu â phenderfynu ar un o'n tair elusen Codi Arian a Rhoi (RAG) ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
I'r rheiny ohonoch sy'n anghyfarwydd â'r fenter, mae RAG UMAber yn un gronfa sy'n cael ei rhannu'n gyfartal rhwng tri achos da bob blwyddyn:
- Caiff y cyntaf ei rhoi i elusen yn y DU a gaiff ei chynnig a’i phleidleisio gan fyfyrwyr yn ystod y Glas bob blwyddyn.
- Caiff yr ail ei rhoi i elusen o Gymru a gaiff ei phenderfynu gan dîm ein swyddogion llawn amser yn ystod yr haf bob blwyddyn.
- Rhoddir y traean sy'n weddill mewn Cronfa Gymunedol a'i ddosbarthu ymysg elusennau lleol yng nghanolbarth Cymru ar ffurf grantiau.
Yn ogystal â hyn, gall Clybiau Chwaraeon a Chymdeithasau sy'n angerddol dros achosion penodol godi arian ar gyfer elusen o'u dewis, er ein bod yn annog ein myfyrwyr i gyd i gefnogi'r Gronfa RAG uchod.
Ac felly unwaith eto rydym yn gofyn i chi am eich awgrymiadau ar gyfer elusennau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i'w cyflwyno i fyfyrwyr er mwyn iddynt bleidleisio arnyn nhw yn ystod cyfnod y glas ym mis Medi.
Meddai Louisa, y Swyddog Cyfleoedd eleni:
Mae hwn yn gyfle ardderchog i fyfyrwyr gyflwyno elusennau sydd yn eu barn nhw'n deilwng o'n cefnogaeth, boed hynny o safbwynt personol neu yn rhinwedd y ffaith ei fod yn achos gwych. Peidiwch â cholli'r cyfle i greu effaith sylweddol er mwyn yr elusen o'ch dewis drwy ei henwebu nhw i fod yn un o dair elusen RAG eleni.
Gallwch gyflwyno eich awgrymiadau gan ddefnyddio'r ffurflen isod, fydd yn parhau i fod ar agor tan ddydd Mercher 12fed Medi.
Bydd yr awgrymiadau a ddewisir yn cael eu datgelu yn ystod yr wythnosau sy'n arwain i fyny at gyfnod y glas, a rhoddir gwahoddiad i'r rheiny â'u cynigiodd i hyrwyddo'r elusen o'u dewis yn ystod y bleidlais.