Mae amser ar ôl y Glas wedi hedfan ac mae'n bosib bod rhai ohonoch chi'n ysu am wyliau'r Nadolig.
Mae'n bosib eich bod chi newydd dderbyn neu ar fin cyflwyno eich aseiniad cyntaf ac yn ofni'r canlyniadau. Os ydych chi'n fyfyriwr blwyddyn gyntaf, efallai bod y newid i fywyd yn y brifysgol wedi cymryd mwy o amser i rai ohonoch nag eraill ac i fyfyrwyr sy'n dychwelyd, gall dod yn ôl i arfer astudiaethau academaidd fod yn anodd weithiau.
Fodd bynnag, os oes gennych chi ddiddordeb mewn creu ffrindiau newydd drwy ymuno â chlwb chwaraeon neu gymdeithas neu wirfoddoli yn y gymuned, neu os oes angen cymorth academaidd neu lesiant arnoch, mae amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau gan yr Undeb a'r Brifysgol ar gael i roi'r cymorth sydd ei angen arnoch.
Dyma bum cyngor gan ein Swyddogion Llawn Amser ynglyn â sut i oroesi canol y tymor…
Emma
Ydych chi wedi cael eich asesiad cyntaf yn ôl a heb gael yr hyn roeddech chi'n ei ddisgwyl neu ydych chi'n aneglur ar ôl cael adborth o'ch cwrs? Beth am drafod â'ch Cynrychiolydd Academaidd a all helpu i esbonio sut mae cael cymorth pellach i'ch helpu chi i wella ar eich asesiad nesaf.
Molly
Myfyrwyr presennol yw Mentoriaid Adrannol sydd â phrofiad o'ch adran. Gallan nhw helpu myfyrwyr newydd drwy eu tywys nhw, esbonio lle mae pethau ac esbonio sut mae defnyddio adnoddau dysgu. Siaradwch â'ch adran os ydych chi am wybod mwy.
Jess
Mae ymuno â chlwb neu gymdeithas yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau hollbwysig, cymdeithasu a chreu ffrindiau newydd. Gweler rhestr lawn ar wefan Undeb y Myfyrwyr ac mae ymuno'n hawdd. Os ydych chi'n ansicr neu am gael mwy o wybodaeth, galwch heibio adeilad Undeb y Myfyrwyr.
Bruce
Yn aml, gall holi ffrind sut maen nhw fod yn ffordd graff ond syml i ni i gyd sicrhau ein bod ni'n goroesi canol y tymor. Gall rhywbeth mor syml â mynd am goffi, cysylltu ag eraill o'ch cwmpas ac adlewyrchu ar ein profiadau ein helpu ni i werthfawrogi'r hyn sy'n bwysig. Mae Cymorth i Fyfyrwyr hefyd yn darparu amrywiaeth o weithdai gan gynnwys Gofalu am eich ffrind os oes gennych chi ddiddordeb.
Gwion
Cofiwch fod amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael yn y Brifysgol o Gymorth i Fyfyrwyr i Wasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr – rydyn ni gerllaw i helpu, p'un a ydych chi'n cael trafferth ariannol neu'n cael problemau ar eich cwrs. Mae gan y Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian gyfnod galw heibio rhwng 2pm a 4pm yn ystod wythnosau'r tymor yn y Ganolfan Groesawu Myfyrwyr.
Ond, yn hollbwysig, cofiwch fod dim ond 7 wythnos wedi pasio ers y Penwythnos Croeso Mawr ac mae digon o bethau i'w gwneud i chi garu bywyd fel myfyrwyr!
Os oes angen cymorth arnoch chi gyda bywyd yn y brifysgol, neu os ydych chi'n pryderu am lesiant ffrind, anogwch ef/hi i geisio cymorth, mynd i'r dolenni uchod neu alw heibio Undeb y Myfyrwyr.