Os bydd Aelodau’r Senedd yn colli dau gyfarfod heb anfon ymddiheuriadau, byddant yn colli eu pleidlais.

Teitl Gwreiddiol: Dylai Aelodau’r Senedd golli’r hawl i bleidleisio am fethu â mynychu dau gyfarfod heb ymddiheuro

Pasiwyd gan: Y Senedd

Pasiwyd ar: 26/10/2026

Yn darfod ar: 26/10/2029


Crynodeb:

Mae ar gynrychiolwyr etholedig y Senedd gyfrifoldeb i fynychu cyfarfodydd a chymryd rhan ym mhroses wneud penderfyniadau’r Undeb. Nid yw cynrychiolwyr sy’n parhau i fethu â mynychu cyfarfodydd heb anfon ymddiheuriadau yn cyflawni’r rôl hon. Cynnig y polisi hwn yw dileu hawliau pleidleisio cynrychiolwyr a ganddynt dau absenoldeb heb ei gymeradwyo neu fwy, gan sicrhau fod y grym pleidleisio yn aros gydag aelodau gweithredol a gweithgar.

Manylion:

Bob blwyddyn, mae’r myfyrwyr yn ethol Cynrychiolwyr y Senedd i gynrychioli eu cyfoedion, dadlau dros faterion pwysig, a phleidleisio dros bolisïau sy’n llywio yr Undeb. Mae’r cynrychiolwyr hyn yn chwarae rhan fawr mewn sicrhau y caiff lleisiau myfyrwyr eu clywed ac y gall y Senedd wneud penderfyniadau ar faterion sy’n cael effaith ar gorff ehangach y myfyrwyr.

I gyfarfodydd y Senedd fynd yn eu blaen, rhaid iddynt wneud cworwm, sy’n golygu mae’n rhaid i o leiaf 50% o’r aelodau +1 fod yn bresennol. Os aiff y nifer o dan y trothwy, ni fydd y Senedd yn gallu cynnal busnes, dadlau cynigion, na gwneud penderfyniadau. Gall hyn ohirio neu atal newidiadau rhag cael eu gweithredu a gallai beri i fyfyrwyr fod heb gynrychiolaeth effeithiol.

Ers i’r Undeb ddechrau cyhoeddi’r cofnod presenoldeb a gwybodaeth bleidleisio, mae wedi dod i’r amlwg bod nifer fach o gynrychiolwyr etholedig heb fynychu un cyfarfod Senedd trwy gydol y flwyddyn ac na fyddant yn anfon ymddiheuriadau ymlaen llaw. Tra bod y cynrychiolwyr yn cadw eu hawliau pleidleisio ac yn cyfri tuag at y gofynion gwneud cworwm, nid ydynt yn cymryd rhan weithredol yn y broses ddemocrataidd y cawsant eu hethol i wneud.

Mae’r cynnig hwn yn ceisio cryfhau atebolrwydd a sicrhau fod y Senedd yn cadw’n effeithiol trwy gyflwyno canlyniadau am absenoldebau cyson heb esboniad. Yn benodol, caiff hawliau pleidleisio unrhyw aelod o’r Senedd a all bleidleisio sydd â dau absenoldeb cyfarfod Senedd heb esboniad mewn blwyddyn academaidd eu dileu am weddill y flwyddyn academaidd oni bai bod Cadeirydd y Senedd yn eu hadfer yn sgil amgylchiadau arbennig.

Ni fyddai’r cynnig hwn yn cynnwys cynrychiolwyr sy’n anfon ymddiheuriadau cyn cyfarfod. Mae’r Undeb yn cydnabod bod ymrwymiadau academaidd, personol, gwaith, gofal ac iechyd gan fyfyrwyr a allai amharu ar fynychu o bryd i’w gilydd. Pan ddaw’r ymddiheuriadau i law ymlaen llaw, gall staff a swyddogion yr Undeb gadw golwg ar lefelau mynychu a, lle bo’n briodol, ystyried aildrefnu cyfarfodydd er mwyn gwneud cworwm a chynyddu’r niferoedd i’r eithaf.

Mae eisoes cynsail yn yr Undeb dros gysylltu mynychu â chyfrifoldebau cynrychiolwyr. Gall Ymddiriedolwyr o’r Myfyrwyr sy’n methu â mynychu tri chyfarfod heb anfon ymddiheuriadau gael eu diswyddo o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr er mwyn sicrhau y gall cyfrifoldebau llywodraethu fynd yn eu blaen yn effeithiol. Gosodir y trothwy i dri yn hytrach na dau am fod Ymddiriedolwyr o’r Myfyrwyr yn gwasanaethau am dymor o ddwy flynedd, o ystyried bod Cynrychiolwyr y Senedd sy’n gwasanaethau am flwyddyn academaidd yn unig.

Mae disgwyliadau mynychu tebyg yn gyffredin ar draws cyrff llywodraethu, elusennau a sefydliadau cynrychiadol, lle’r ystyrir cyfranogiad gweithredol yn rhan hanfodol o ddal swydd etholedig.

Nid yw’r cynnig yn peri proses is-etholiad neu ail-osod, gan y byddai’n debygol o fod yn anymarferol o ystyried amseru cyfarfodydd y Senedd yn ystod y flwyddyn academaidd. Yn lle, byddai dileu hawliau pleidleisio cynrychiolwyr anweithredol yn lleihau nifer yr aelodau pleidleisio a gyfrir i wneud cworwm. Byddai hyn yn helpu sicrhau y gall cynrychiolwyr gweithredol a gweithgar barhau â gwneud penderfyniadau ar ran myfyrwyr, tra’n hybu mwy o atebolrwydd ymysg y rhai a etholwyd i’w cynrychioli.

Yn y pendraw, nod y cynnig hwn yw gwarchod effeithiolrwydd y Senedd, gwella atebolrwydd, a sicrhau fod penderfyniadau democrataidd yn cael eu gwneud gan gynrychiolwyr sy’n cymryd rhan weithredol yn y swydd y cawsant eu hethol i ymgymryd â hi.

Cyflwynwyd gan: Francesco Lanzi 


Diweddariadau

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
     
     

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

 

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

   

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576