Teitl Gwreiddiol: Dylai’r Undeb ychwanegu cynrychiolwyr tai i’r Senedd.
Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 26/10/2026
Yn darfod ar: 26/10/2029
Crynodeb:
Mae’r Senedd yn bodoli i sicrhau bod gan fyfyrwyr lais yn y penderfyniadau sy’n llywio ac yn datblygu’r Undeb. Fodd bynnag, fel y mae, nid oes cynrychiolydd penodol i bleidio achos myfyrwyr ynghylch materion tai.
Manylion:
Mae tai â rhan hollbwysig yn y profiad myfyriwr yn gyffredinol. Nid yw mynediad i lety diogel, fforddiadwy, ac o ansawdd da yn hanfodol yn unig er budd iechyd corfforol a lles myfyrwyr ond mae’n cael effaith uniongyrchol ar eu gallu i lwyddo’n academaidd, eu hymdeimlad o berthyn, a’u gallu i gymryd rhan yn llawn ym mywyd y Brifysgol.
Mae amgylchiadau tai gwael yn cyfrannu at gynyddu straen, pryder, ac unigedd cymdeithasol. Canfu ymchwil fod amgylchiadau byw gwael a diffyg ymdeimlad o berthyn mewn llety ynghlwm â’r ffactorau sy’n peri lefelau uwch o iselder, pryder, ac unigedd ymysg myfyrwyr. Ar ben hynny, mae Llyfrgell Dŷ’r Cyffredin yn nodi bod pwysau ariannol ac amgylchiadau byw yn cyfrannu’n sylweddol i iechyd meddwl gwael ymysg myfyrwyr, a all, yn ei dro, arwain at waethygu perfformiad academaidd a myfyrwyr ymadael ag addysg uwch.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod tai yn parhau i fod yn bryder mawr i fyfyrwyr. Yn Arolwg Costau Byw Undeb Aberystwyth, daeth tai i’r amlwg fel y 4ydd mater mwyaf sylweddol sy’n cael effaith ar fyfyrwyr, y tu ôl i ansicrwydd bwyd, cyfleoedd gwaith, a phryderon cyffredinol. Mae’r pryder hwn yn adlewyrchu pryderon y mae’r Undeb yn eu clywed yn gyson gan fyfyrwyr dros sawl blwyddyn.
Yn ogystal â hyn, amlygwyd achosion niferus o fyfyrwyr yn byw mewn llety tamp, llawn llwydni, ac mewn cyflwr gwael gan ymgyrchoedd llety Undeb Aber cynt. Mae’r pryderon i’w gweld ar lefel genedlaethol. Canfu ymchwil a gynhaliwyd gan SOS-UK ac Universities UK fod 54% o fyfyrwyr sy’n byw yn y sector rhentu preifat wedi profi tamprwydd neu lwydni yn eu llety, tra bod 59% wedi sôn am deimlo’n annifyr o oer yn eu cartrefi. Meddai bron i hanner o’r myfyrwyr hyn fod yr amgylchiadau hyn wedi dylanwadu ar eu hiechyd meddwl er gwaeth.
Er gwaethaf pwysigrwydd tai i les myfyrwyr a llwyddo’n academaidd, nid oes trefn gynrychioli benodol ar gyfer tai yn yr Undeb ar hyn o bryd. Nid oes cynrychiolydd uniongyrchol a’u prif gyfrifoldeb yw dadlau dros eu buddion a chodi pryderon y myfyrwyr sy’n profi problemau llety o fewn trefn ddemocrataidd yr Undeb.
Felly, dyma gynnig polisi i greu saith swydd Gynrychiolydd Tai:
- Cynrychiolydd Tai Fferm Penglais
- Cynrychiolydd Tai Pantycelyn
- Cynrychiolydd Tai Rosser
- Cynrychiolydd Tai PJM
- Cynrychiolydd Tai Cwrt Mawr
- Cynrychiolydd Llety Allanol y Brifysgol (hy myfyrwyr sy’n byw mewn llety dan reolaeth gyflenwyr megis Codi)
- Cynrychiolydd Myfyrwyr y Sector Preifat x2
Byddai’r cynrychiolwyr yn cael eu hethol ar y cyd â chynrychiolwyr Seneddol eraill yn ystod Etholiadau’r Hydref. I sicrhau cynrychiolaeth go iawn, bydd rhaid i ymgeiswyr fyw yn y llety y maent yn ceisio ei gynrychioli.
Yn ogystal â’u swyddogaeth yn y Senedd, byddai’r Cynrychiolwyr Tai yn creu Bwrdd Cynghori ar Dai. Byddai hyn yn adlewyrchu y drefn lwyddiannus eisoes ar waith i Glybiau, Cymdeithasau, a Chynrychiolwyr Gwirfoddoli, sydd yn y Senedd ac yn cyfrannu i fyrddau cynghori arbenigol. Byddai’r Bwrdd Cynghori ar Dai yn cynnig fforwm penodol i drafod materion yn ymwneud â thai, adnabod tueddiadau sy’n dod i’r golwg, a datblygu argymhellion i’w gweithredu.
Er y byddai cyflwyno cynrychiolwyr ychwanegol yn cynyddu nifer yr aelodau, er mwyn gwneud cworwm yng nghyfarfodydd y Senedd, nid ystyrir y risg yn fawr. Mae cyfarfodydd y Senedd wedi gwneud cworwm yn gyson yn y blynyddoedd diweddar, ac mae disgwyl i gynrychiolwyr gyflawni cyfrifoldebau eu swyddi etholedig trwy fynychu cyfarfodydd.
Mae manteision y cynnig hwn yn drech na’r anfanteision posibl. Byddai sefydlu Cynrychiolwyr Tai yn rhoi goleuni uniongyrchol ar y materion llety sy’n cael effaith ar fyfyrwyr ar draws amryw o amgylchiadau byw. Byddai’n cryfhau atebolrwydd, gwella cyfathrebu rhwng trigolion a’r Undeb, gan alluogi adnabod pryderon ynghylch tai yn gynharach, a sicrhau bod un o’r ffactorau sy’n taro lles myfyrwyr fwyaf yn cael cynrychiolaeth benodol o fewn trefn ddemocrataidd yr Undeb.
Yn y pendraw, byddai’r polisi hwn yn sicrhau bod llais cryf gan fyfyrwyr dros faterion tai ac y gall yr Undeb ddadlau’n well dros lety saff, fforddiadwy ac uchel ei ansawdd i’r holl fyfyrwyr.
Cyflwynwyd gan: Laura Young
Diweddariadau
| Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
| |
|
|
| |
|
|
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.