Teitl Gwreiddiol: Cyflwyno Pleidlais o Ddiffyg Ffydd ar gyfer Cynrychiolwyr Academaidd ac Aelodau Pwyllgorau Chwaraeon a Chymdeithasau
Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 01/11/2021
Yn darfod ar: 01/11/2024
Statws: Rydym yn gweithio arno
Crynodeb
Cynnig o ddiffyg hyder ar gyfer cynrychiolwyr a chymdeithasau/clybiau i ddiswyddo cynrychiolydd/aelod pwyllgor os nad yw’r myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli.
Manylion
Ar hyn o bryd, nid oes mecanwaith ar waith i ddiswyddo Cynrychiolwyr Academaidd neu Aelodau Pwyllgorau Chwaraeon a Chymdeithasau o’u rôl os nad yw myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli’n ddigonol. Rwy’n cynnig ein bod yn defnyddio’r un system sydd ar waith ar gyfer Swyddogion Llawn a Rhan Amser a chreu opsiwn o Bleidlais o Ddiffyg Ffydd. Byddai hyn yn caniatáu cael gwared ar Gynrychiolydd neu Aelod Pwyllgor. Byddai’n rhaid i fyfyriwr gael cefnogaeth gan 5% o aelodau pwyllgor y clwb neu’r cymdeithas / aelodau perthnasol y cwrs i alw am gynnig o ddiffyg ffydd a chael cworwm o 10% o aelodau pwyllgor y clwb neu’r gymdeithas / aelodau perthnasol y cwrs er mwyn dilysu’r bleidlais.
Rwy’n credu y bydd hyn yn gwella atebolrwydd y rolau hyn i fyfyrwyr a rhoi mwy o bwer i fyfyrwyr wrth ddewis pwy sy’n eu cynrychioli.
Cyflwynwyd gan: Elizabeth Manners
Diweddariadau
| Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
| Rydyn ni wrthi’n rhoi is-ddeddf at ei gilydd a fydd yn cyflwyno’r syniad o bleidleisiau o ddiffyg hyder i Gynrychiolwyr Academaidd ac Aelodau Pwyllgorau a chynhelir pleidlais drosto mewn Senedd yn y dyfodol neu yn y Cyfarfod Cyffredinol |
Anna (Materion Academaidd 2023-24) |
Tachwedd 2023 |
|
Pan na fydd cynrychiolydd yn gweithredol, gall yr Undeb ofyn i rywun arall gamu i’r adwy. Yn achos bwlio cysylltiedig â chynrychiolydd, defnyddir gweithdrefn gwynion yr Undeb. Yr un fydd y weithdrefn ar gyfer aelodau pwyllgor ond y Swyddog Llawn Amser a’r rheolwr perthnasol fydd yn cadw golwg arni.
|
Anna (Materion Academaidd 2023-24) |
Mehefin 2024 |
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn