Connor Hunter-Wem
Llesiant
"Connor yw llais myfyrwyr ar gyfer llesiant a rhyddhad"
Mae ei rôl yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein myfyrwyr mor hapus ac iach â phosib.
Darllenwch 'blog cyflwyno Connor' yma.
E-bost: llesiantum@aber.ac.uk
Fy Rôl
Bydd y Swyddog Llesiant yn gyfrifol am y canlynol:
- Cynrychioli corff y myfyrwyr ar faterion sy'n perthyn i lesiant, gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr, lles, cydraddoldeb ac amrywioldeb.
- Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â llesiant myfyrwyr.
- Ffurfio sail ar gyfer polisïau'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ynghylch materion sy'n ymwneud â llesiant myfyrwyr.
- Cynorthwyo a datblygu rhwydwaith o fyfyrwyr ar faterion llesiant drwy gadeirio'r Parth Llesiant.
- Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth UMPA i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
- Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.
- Mynychu cyfarfodydd rheolaidd ag adrannau perthnasol y Brifysgol i ddatblygu llesiant myfyrwyr ymhellach.
Pwyllgorau’r Brifysgol / Cyfarfodydd a Fynychwyd:
- Pwyllgor Profiad Myfyrwyr
- Aber Hygyrch
- Hyrwyddwyr Cydraddoldeb
- Cyfarfod Rhwydwaith Canllawiau Cyfoedion
- Cyfarfod Cydlynwyr Anabledd yr Adran
- Cyfarfod Grwp Strategaeth Cyffuriau ac Alcohol
- Grwp Polisi Gweithredu Traws
- Grwp Monitro Presenoldeb
- Cyfarfod Prifysgol Aberystwyth Di-blastig
Blaenoriaethau Presennol
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Connor yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae hi wedi’i wneud hyd yma…
Trefnu hyfforddiant Dim Esgusodion ar gyfer Pwyllgorau Clybiau a Chymdeithasau.
----------
|
 |
Trefnu digwyddiadau a gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylder Bwyta (1af -7fed Mawrth 2021). *
----------
|
   |
Gweithio gyda'r Brifysgol i lobïo Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i wella llwybrau gofal iechyd ar gyfer myfyrwyr traws. *
----------
|
 |
Cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy’n gwneud gwaith rhyw drwy lobïo'r Llywodraeth i beidio â chategoreiddio gwaith rhyw fel trosedd, yn ogystal â chanfod a chysylltu â grwpiau cymorth cyfagos ar gyfer gweithwyr rhyw sy'n fyfyrwyr. *
----------
|
 |
Lobïo'r Brifysgol i ddarparu hyfforddiant cydsyniad gorfodol i bob myfyriwr. *
----------
|
 |
Mae * yn dynodi polisi a basiwyd yn ddemocrataidd gan fyfyrwyr Aberystwyth.

