Croeso i’r Parthau!
Digwyddiad yw Parth sy’n cael ei gynnal gan yr Undeb i ganiatáu i fyfyrwyr ddod at ei gilydd ar gyfer trafodaethau sy'n dylanwadu ar waith y swyddogion a’r staff, lle cawn gyfle i rannu llawer o syniadau ac adborth.
Maen nhw’n llai o faint, yn llai ffurfiol ac yn fwy hyblyg i gynnig rhagarweiniad hawdd i ddemocratiaeth yn UMAber.
Caiff pob Parth ei gadeirio gan y swyddog llawn amser perthnasol ac mae aelod o staff yn ei gefnogi.
Beth yw diben y Parthau
Bydd Parth llwyddiannus yn caniatáu i fyfyrwyr dynnu sylw at y materion sy'n fwyaf perthnasol iddynt mewn sefyllfa lawer mwy personol gydag amryw fynychwyr sy’n gallu:
- Rhoi’r diweddaraf i bawb ar eu cynlluniau a'u digwyddiadau
- Annog y swyddog llawn amser i weithredu ar fater
- Rhoi adborth ar syniadau rydych chi am eu cyflwyno i'r Cyngor
- Awgrymu geiriad a gwelliannau ar gyfer syniadau neu ymgyrchoedd
- Helpu i ddarparu ffeithiau a phrofiadau personol sy'n berthnasol i'r testun
- Canfod sut gallai gweithio ar syniad neu destun gael effaith gadarnhaol
- Dod o hyd i gyfleoedd i gydweithio ar broblemau ar y cyd
- Ateb cwestiynau
Beth sy’n cael ei drafod?
Mae pob Parth yn dilyn ffurf sylfaenol:
- Cyflwyniadau – eich croeso arferol, ymddiheuriadau a chyfle i dorri’r iâ
- Adroddiad y swyddog - cewch wrando ar adroddiad swyddogol y swyddog llawn amser perthnasol a'i ddal i gyfrif
- Testunau trafod a gyflwynwyd – gall myfyrwyr gyflwyno testunau i’w trafod cyn pob Parth er mwyn sicrhau lle iddo ar yr agenda. Gall hyn fod yn unrhyw beth sy'n berthnasol i'r Parth!
- Unrhyw fater arall – cyfle i godi unrhyw beth, o destunau ychwanegol i ddiweddariadau neu gyhoeddiadau
O bryd i'w gilydd, byddwn ni’n gosod thema i’r Parth o gwmpas digwyddiad presennol neu fater pwysig neu’n defnyddio'r cyfarfod i wahodd siaradwyr ar gyfer sgyrsiau byr a sesiynau holi ac ateb.
Sut mae cyflwyno testun i'w drafod?
Gallwch e-bostio'ch pwnc at y Cydlynydd Llais Myfyrwyr, Chris, neu gyflwyno syniad trwy ein ffurflen ar-lein yma.
Cyfarfodydd sydd ar y gweill
Mwy o wybodaeth am bob parth
Parth Diwylliant Cymreig
Cadeirydd: Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA
Staff cynorthwyol: Cymorth a Chynrychiolaeth / Marchnata a Chyfathrebu
Mynychwyr arferol: Swyddog yr Iaith Gymraeg, Pwyllgor Gwaith UMCA
Daw unrhyw un sydd â diddordeb yn niwylliant Cymru ynghyd i drafod materion sy’n ymwneud â’r canlynol:
- Y Gymraeg, dwyieithrwydd a dysgu Cymraeg yn Aber
- Darpariaeth addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg
- Digwyddiadau, dathliadau a gweithgareddau gwyliau yn Gymraeg
- Cymorth ac adnoddau cymunedol i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a'u grwpiau fel UMCA
Parth Academaidd
Cadeirydd: Swyddog Materion Academaidd
Staff cynorthwyol: Cymorth a Chynrychiolaeth
Mynychwyr arferol: Cynrychiolwyr Athrofa, Cynrychiolwyr Academaidd, Pwyllgorau Cymdeithasau Academaidd
Mae'r Parth hwn yn ymwneud ag addysg gan gynnwys:
- Y system gynrychiolaeth academaidd
- Materion penodol sy'n ymwneud ag unrhyw beth o ddarlithoedd, cyrsiau, modiwlau neu hyd yn oed gynlluniau gradd
- Materion sy'n ymwneud â gwasanaethau fel llyfrgelloedd, gwasanaethau gwybodaeth neu offer ar-lein
- Newidiadau yn strwythurau, staff neu weithgareddau'r Brifysgol
Parth Llesiant
Cadeirydd: Swyddog Llesiant
Staff cynorthwyol: Cymorth a Chynrychiolaeth
Mynychwyr arferol: Swyddogion Rhyddhad, Swyddogion Llesiant Clybiau/Cymdeithasau, Pwyllgorau Cymdeithasau Elusennol neu Lesiant
Mae'r Parth hwn yn ymdrin â phopeth sy’n ymwneud â llesiant gan gynnwys:
- Y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr trwy'r Undeb, y Brifysgol a darpariaeth iechyd lleol
- Problemau sy'n effeithio ar hygyrchedd ac iechyd corfforol ac iechyd meddwl myfyrwyr
- Ymgyrchoedd a chymorth i ddathlu a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant
Parth Chwaraeon a Chymdeithasau
Cadeirydd: Swyddog Cyfleoedd
Staff cynorthwyol: Cyfleoedd
Mynychwyr arferol: Pwyllgorau Clybiau Chwaraeon a Chymdeithasau
Mae’r Parth hwn yn cael ei rannu’n ddau (awr yr un i’r clybiau a’r cymdeithasau) a phan fo'n berthnasol mae'n trafod:
- Cymryd rhan mewn clwb neu gymdeithas a'r holl bethau sydd ynghlwm
- Grantiau, cyllid, hyfforddiant a chynrychiolaeth
- Materion sy’n ymwneud â chyfleusterau
- Digwyddiadau mawr fel y Rhyngolgampau, Superteams a Gwobrau
- Codi arian a gwirfoddoli
Mae’r Parthau’n gyfle gwych i sbarduno’r trafodaethau rydych chi am i ni eu cael, a'r gwaith hoffech chi i ni ei wneud.
Gallwch e-bostio'ch testun i mmd11@aber.ac.uk, neu gyflwyno syniad trwy ein ffurflen ar-lein yma.