Bwriad yr Hafan Etholiadau yw rhoi popeth sydd ei angen arnoch chi i sefyll etholiad. Caiff ei diweddaru'n rheolaidd ac yno cewch ddarllen eich proffil, gwneud cwyn a chewch ffeithlenni a thempledi i'ch helpu chi i gynllunio eich ymgyrch a threfnu tîm eich ymgyrch.
Cwynion yn yr Etholiadau
Ffurflen gwyno ynglyn ag etholiadau UMAber
Y pethau sylfaenol…
Bwriad y rhain yw darparu popeth sydd ei angen arnoch i sefyll yr etholiadau, beth bynnag fo'r rôl rydych chi'n gwneud cais amdani. Bydd yr adnoddau hyn ar gael i'r holl ymgeiswyr ac maen nhw'n cynnwys canllawiau i'r broses etholiadol a'r rheolau.
Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr
Rheolau'r Ymgeiswyr
Cyflwyniad Rhagwybodaeth i'r Ymgeiswyr
Cyflwyniad Rhagwybodaeth i'r Ymgeiswyr (Cynrychiolwyr Academaidd)
Ffurflen Dreuliau Ymgeisydd
I'r rheiny sydd am gael ychydig mwy…
I'r rheiny sydd am gael ychydig mwy o gymorth wrth gynllunio'u hymgyrch. Ymhlith yr adnoddau hyn mae templedi, canllawiau a gwybodaeth ddefnyddiol i roi cymorth i bob ymgeisydd yn ystod y broses etholiadol.
Canllawiau i Ymgyrchu
Templed Trefnu Tîm Ymgyrchu
Adnoddau Staff...
Canllawiau Etholiad Undeb y Myfyrwyr ar gyfer Staff
Posteri Cynrichiolwyr Academaidd
Proffil Ymgeisydd
Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru fel ymgeisydd gan ddefnyddio’r Ffurflen Sefyll byddwch yn creu enw defnyddiwr cofiadwy a chyfrin-air i fewngofnodi a chyrchu’r wybodaeth rydych chi wedi’i darparu, yn ogystal â diweddaru eich gwybodaeth lle mae hynny’n bosib.
Bydd y math o rôl rydych chi wedi sefyll ar ei chyfer yn penderfynu pa un o’r ddau ddull mewngofnodi i’ch proffil isod y dylech chi ei ddefnyddio.
Rolau Swyddog Llawn-Amser, Swyddog Gwirfoddol, Myfyriwr Ymddiriedolwr a Chynrychiolydd i Gynhadledd UCM
I’r ymgeiswyr hynny sy’n sefyll ar gyfer rolau Swyddog Llawn-Amser, Swyddog Gwirfoddol, Myfyriwr Ymddiriedolwr a Chynrychiolydd i Gynhadledd UCM; defnyddiwch y dull mewngofnodi isod.
Rolau Cynrychiolwyr Academaidd
I’r ymgeiswyr hynny sy’n sefyll ar gyfer rolau Cynrychiolwyr Academaidd; defnyddiwch y dull mewngofnodi isod.