Aber Forever: Un Noson Olaf Yn Yr Undeb
DJ Eddy Scissorhands fydd wrth y llyw yn chwarae goreuon y 90au a’r 00au ‘fyny’r bryn’ rhwng 6pm ac 1am ac er na allwn ni addo prisiau diodydd 2002, bysen ni wrth ein boddau eich gweld chi’n ymuno â’r parti yn yr Undeb, gyda hen griw Aber unwaith eto! Mae’r tocynnau i’w cael drwy’r ddolen Eventbrite isod a bydd pob elw yn mynd i Undeb y Myfyrwyr!
Y ddolen: https://www.eventbrite.com/e/aber-forever-tickets-836081160257
Os yn chwilio am lety ar y campws mae’r Byncws yn lle da ac mae modd cadw ystafell ar-lein. Dere â dy hen ffrindiau prifysgol at ei gilydd, rho dy ‘sgidiau dawnsio amdanot a bant â ni ‘nôl i’r nôtis!