Taith Gwyl y Gaeaf Caerdydd 2023
Taith Gwyl y Gaeaf Caerdydd 2023
Dewch ar daith un dydd gyda ni i Brifddinas Cymru lle cewch chi ymweld â Gwyl y Gaeaf a manteisio ar holl uchafbwyntiau’r wyl yn cynnwys sglefrio iâ, atyniadau ffair, bar iâ, a bwyd a diod i dwymo’r galon, gyda holl adeiladau nodedig a golau trawiadol eiconig y ddinas yn y cefndir!
Amseroedd: Gadael Campws Prifysgol Aberystwyth am 7:30y.b. (codi o waelod Grisiau Canolfan y Celfyddydau am 7y.b.). Gadael Caerdydd am 6y.h. (codi am 5:30y.h.) ar gyfer dychwelyd erbyn 9y.h.
Mae tocynnau dychwelyd i’r bws ar gael am £17 y pen.
Dyddiad cau ar gyfer prynu tocyn: Dydd Gwener 24ain o Tachwedd
Nid yw hyn yn cynnwys tocynnau i atyniadau Gwyl y Gaeaf. I brynu’r rhain, dilynwch y ddolen hon a chadwch docyn myfyriwr/wraig.
Cofiwch fachu eich tocynnau yn gynnar i osgoi cael eich siomi!
Bydd angen prawf oedran ar unrhyw un sy'n edrych o dan 18 oed sy'n gofyn am gael prynu alcohol wrth y bar.
***Gwisgwch ddillad glaw, cynnes ac esgidiau cadarn.
*** Nifer cyfyngedig ar gael, uchafswm o 2 docyn fesul archeb.
***Os na werthir pob tocyn erbyn dydd Gwener 24ain o Tachwedd (9yb), falle bydd y digwyddiad yn cael ei ganslo.
***Ni ellir ad-dalu tocynnau.