Wisdom Wellbeing - Cynllun Cymorth Cyfrinachol ac Am Ddim i Fyfyrwyr 24/7/365
Ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a Health Assured
Beth yw Wisdom Wellbeing?
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi partneru â Health Assured i ddarparu Wisdom Wellbeing - gwasanaeth cynghori cyfrinachol am ddim sydd wastad ar gael ar gyfer ein holl fyfyrwyr. Galli fanteisio ar gymorth trwy’r gwasanaeth hwn unrhyw awr o’r dydd, unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn, hyd yn oed pan fydd Gwasanaethau Lles y Brifysgol wedi cau.
Pa fath o gymorth ga’ i?
Mae Wisdom Wellbeing yn cynnig mynediad ar unwaith i:
- Gwnselwyr cymwysedig (cyfrinachol ac am ddim)
- Gymorth dros y ffôn, sgwrsio’n fyw, galwad fideo, WhatsApp neu Wisdom AI.
- Gefnogaeth yn y Gymraeg, cyfieithu ar y pryd, arwyddwyr Iaith Arwyddo Prydain.
- Fideos cadw heini, myfyrio dan arweiniad, a ryseitiau.
- Adnoddau hunangymorth ac offer lles.
- Gyngor ariannol
- A llawer mwy
Mae cymorth ar gael ar gyfer unrhyw bryderon, gan gynnwys:
- Lles meddyliol neu emosiynol
- Straen neu or-bryder
- Pryderon ynghylch perthnasoedd neu deulu
- Pryderon yn dy gylch dy hun neu rywun arall.
- Cyngor ariannol neu ar arian
- Neu unrhyw beth arall sy’n dy boeni
Sut mae cael gafael ar gymorth
Galli di siarad â rhywun pryd bynnag y bydd angen arnat - a hwnnw’n hollol gyfrinachol a heb feirniadaeth. Mae help i’w gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae’r opsiynau yn cynnwys:
- Ffonio 0800 028 3766
- Sgwrsio’n fyw
- Galwad fideo
- WhatsApp
- Lawrlwytho’r ap Wisdom
Ap Wisdom
Mae Ap Wisdom yn rhoi cymorth lles i ti dros dy ffôn, gan gynnwys:
- Tracio Hwyliau
- Cynlluniau iechyd pedair wythnos
- Sgyrsiau bach ynghylch iechyd
- A llawer o adnoddau buddiol eraill a ddyfeisir ar sail dy ddiddordebau
Galli lawrlwytho’r ap yma:
Google Play: https://play.google.com/store/apps/details?id=com.healthassured.wisdom&pli=1 Apple App Store : https://apps.apple.com/gb/app/wisdom-learn-grow-thrive/id6462672407
Mae dechrau arni yn gyflym a rhwydd:
- Lawrlwytha yr app Wisdom
- Rho’r cod unigryw i Brifysgol Aberystwyth MHA274262 i gofrestru
- Ychwanega dy fanylion ac yna dewis beth sydd orau gennyt ti o ran y cynnwys yr hoffet ti ei weld
Unwaith dy fod yn barod, cei ddarganfod popeth sydd gan yr app i’w gynnig.
Cefnogaeth gan Rywun sy’n Dy Ddeall Di
Mae Wisdom Wellbeing yn cynnig Paru Profiad Byw - galli ofyn cael siarad â rhywun sydd â’r un cefndir â ti neu’n ei ddeall, gan gynnwys:
- Ffydd ac ysbrydolrwydd
- Diwylliant ac ethnigrwydd
- Rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol
- Niwroamrywiaeth ac anabledd
- Profiad byw personol (ee un sy’n gadael gofal, wedi ymddieithrio oddi wrth dy deulu, heriau bywyd myfyriwr)
Dim ond i ti roi gwybod iddynt am beth sydd o bwys i ti, ac fe wnân nhw eu gorau glas i dy baru â’r person iawn.
Sut mae’n cyd-fynd â gwasanaethau eraill y Brifysgol
Mae Wisdom Wellbeing yn mynd law yn llaw â Gwasanaeth Llesiant y Brifysgol ei hun, sy’n cynnig:
- Sesiynau cwnsela un ar y tro
- Cyfeirio at wasanaethau allanol (ee Ardal 43 ar gyfer y rheiny o dan 30)
- Cyfarwyddyd a chefnogaeth i fynd at dy feddyg teulu.
- Manteisio ar wasanaethau statudol lleol ar gael i ti
Dolenni Cyflym