Oriau, Gwyliau a Seibiannau

Mae'r Rheoliadau Amser Gweithio’n ymdrin â set sylfaenol o hawliau sy’n ymwneud â phum prif faes eich bywyd gwaith:

  • Uchafswm yr oriau y gellir gofyn i chi weithio mewn wythnos.
  • Sawl awr y gallwch chi weithio ar y tro.
  • Faint o orffwys y mae gennych hawl iddo.
  • Amddiffyniad arbennig i bobl sy'n gweithio yn ystod y nos.
  • Faint o wyliau blynyddol â thâl y gallwch eu cael.

Mae'r rheoliadau yn berthnasol i chi os oes gennych chi gontract cyflogaeth neu os ydych chi'n weithiwr nad yw'n hunangyflogedig. Os ydych chi'n weithiwr cyflogedig, ond eich bod yn gweithio yn y diwydiannau cludiant, boed hynny yn yr awyr, ar y rheilffyrdd, y priffyrdd neu’r môr, yna mae’n bosib na fydd y rheolau hyn yn eich cynnwys chi.


Uchafswm oriau gwaith: 48 awr yr wythnos

Mae’n anghyfreithlon i’ch cyflogwr eich gorfodi i weithio mwy na 48 awr yr wythnos ar gyfartaledd. Gall hyn effeithio’n benodol arnoch chi os ydych chi’n penderfynu gweithio llawn-amser dros wyliau’r haf neu os ydych chi’n fyfyriwr rhan-amser.

  • Mae nifer yr oriau y byddwch chi’n eu gweithio bob wythnos fel arfer yn cael ei gyfrifo ar gyfartaledd dros gyfnod o 17 wythnos, er y gall fod rhai eithriadau penodol i hyn.
  • Os ydych chi am weithio mwy na 48 awr yr wythnos, yna rhaid i chi arwyddo ffurflen ‘optio allan’ yn datgan hyn.
  • Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych chi’n gweithio i fwy nag un cyflogwr.

Gweithwyr Nos

Os ydych chi'n gweithio'n rheolaidd am fwy na thair awr rhwng 11.00pm a 6.00am yna fe'ch ystyrir i fod yn weithiwr nos.

  • Fel gweithiwr nos ni ddylid gofyn i chi weithio am fwy nag wyth awr ar gyfartaledd ym mhob cyfnod 24 awr.
  • Mae nifer yr oriau rydych chi wedi gweithio ar gyfartaledd fel arfer dros gyfnod o 17 wythnos, er y gall fod rhai eithriadau.
  • Os ydych chi'n gweithio fel gweithiwr nos mewn swydd sy'n cynnwys peryglon arbennig, gwaith corfforol trwm neu straen meddyliol, yna mae'r terfyn o wyth awr y dydd yn derfyn gwirioneddol ar gyfer pob diwrnod, yn hytrach na chyfartaledd dros gyfnod o amser.
  • Os ydych chi'n weithiwr nos, mae’n ddyletswydd cyfreithiol ar eich cyflogwr i gynnig asesiad iechyd am ddim i chi cyn i chi ddechrau ar eich swydd.
  • Fel gweithiwr nos, bydd angen i'ch cyflogwr hefyd wirio'ch iechyd yn rheolaidd.

Seibiannau

Dyma'r cyfnodau o orffwys y mae gennych hawl iddynt. Nid oes rhaid i'ch cyflogwr eich talu yn ystod eich seibiannau, ac ni fyddant yn cael eu cynnwys wrth gyfrif faint o oriau rydych chi wedi gweithio at ddibenion Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os ydych chi dros 18 oed mae gennych hawl i’r canlynol:

  • Os ydych chi'n gweithio mwy na chwe awr y dydd, mae gennych chi hawl i gael seibiant o 20 munud o leiaf.
  • Mae gennych hawl i gael gorffwys am o 11 awr o leiaf ym mhob 24 awr.
  • Mae gennych hawl i o leiaf ddau ddiwrnod gorffwys bob pythefnos.

Mae yna amrywiadau penodol mewn rhai amgylchiadau arbennig, ond yr egwyddor gyffredinol yw bod gan bob gweithiwr hawl i o 90 awr yr wythnos o orffwys ar gyfartaledd.


Gwyliau Blynyddol â Thâl

Mae gan bob gweithiwr llawn-amser hawl i o leiaf 5.6 wythnos o wyliau â thâl (neu 'wyliau blynyddol') y flwyddyn. Mae hyn yn 28 diwrnod i rywun sy'n gweithio pum niwrnod yr wythnos, er y bydd hyn pro rata os ydych chi'n gweithio llai. Rydych chi'n dechrau bod yn gymwys i gael gwyliau blynyddol o'ch diwrnod cyntaf yn y gwaith, ond mae yna sawl ystyriaeth y dylech chi eu gwneud wrth gymryd gwyliau:

  • Nid oes gennych yr hawl i ddewis pa ddyddiau o wyliau y gallwch eu cymryd.
  • Gall eich cyflogwr ofyn i chi gymryd gwyliau banc fel rhan o'r gwyliau mae gennych chi hawl iddo.
  • Yr isafswm a bennir gan y gyfraith yw’r rhain, felly mae’n bosib y byddwch chi’n cael mwy na hyn.

Mae gwybodaeth fanylach am yr hawl i wyliau ar Wefan Llywodraeth y DU.


Beth all Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber ei wneud i helpu?

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol o'r Brifysgol, ac mae'n darparu gwasanaeth cyfrinachol a di-duedd, am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Gall y Gwasanaeth Cynghori roi cymorth i chi mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • Esbonio’ch hawliau o ran deddfwriaeth cyflogaeth a'ch cyfeirio at wasanaethau cynghori allanol, lle bo hynny’n briodol.
  • Adolygu unrhyw ddatganiadau drafft rydych chi’n eu paratoi a chynnig awgrymiadau;
  • Mynd gyda chi i unrhyw gyfarfodydd er mwyn darparu cymorth a chynrychiolaeth i chi, lle bo hynny’n briodol.
  • Eich helpu i gasglu tystiolaeth briodol ynghyd fel sail i'ch achos.

Cysylltu  Chynghorydd


Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd am y tro cyntaf: Medi 2020

Adolygwyd: Ebrill 2024

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576