Lleddfu Straen a Llesiant

10 o Hintiau Handi ar gyfer Adolygu

  1. Cyn i chi ddechrau, lluniwch amserlen lawn ar gyfer adolygu. Bydd hyn o gymorth i dawelu eich meddwl a'ch helpu i ganolbwyntio.
     
  2. Byddwch yn greadigol; ceisiwch ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau megis diagramau gwe-pry-cop ac ysgrifennu geiriau allweddol mewn gwahanol liwiau i'ch helpu i gofio gwybodaeth.
     
  3. Cymrwch seibiant yn aml! Mae gallu pawb i gofio gwybodaeth yn pylu dros amser, felly rydym yn argymell cymryd seibiant yn rheolaidd bob 45 munud er mwyn adfywio eich meddwl.
     
  4. Bwytwch ac yfwch yn iach! Mae angen i'ch ymennydd gadw'i lefelau egni, felly bwytwch ffrwythau a llysiau ffres yn rheolaidd, a chofiwch fwyta brecwast ar fore unrhyw asesiadau.
     
  5. Gwnewch ddigonedd o ymarfer corff! Dyma un o'r ffyrdd gorau o ymdrin â straen.
     
  6. Cofiwch neilltuo digon o amser ar gyfer ymlacio a chysgu. Argymhellir eich bod yn cael rhwng 7 ac 8 awr o gwsg!
     
  7. Byddwch yn ymwybodol o unrhyw straen. Gall cymryd seibiant neu gael sgwrs â rhywun sy'n deall y pwysedd sy'n effeithio arnoch chi roi pethau mewn persbectif weithiau.
     
  8. Dylech osgoi cymharu eich gallu ag eraill, a gwnewch yn sicr eich bod chi wedi dewis y dull o adolygu sy'n gweithio orau i chi!
     
  9. Defnyddiwch adnoddau adolygu a ddarperir gan eich adran, a pheidiwch â bod ofn gofyn am rai lle na chânt eu darparu.
     
  10. Trefnwch wobrau i chi eich hun - dylech gynnwys y rhain yn eich amserlen! Cynlluniwch rywbeth cyffrous i ddathlu eich ymdrech ar ddiwedd eich asesiadau.
     

Gofalu amdanoch eich hun a'ch iechyd meddwl yn ystod cyfnod y pandemig

Arferion hunanofal

Gall fod mor hawdd mynd i’r arfer o gysgu'n hwyr, treulio'r diwrnod yn eich pyjamas a bwyta sothach, ond mae gofalu am eich hun yn hanfodol i'ch iechyd meddwl. Gall sicrhau eich bod chi'n cyflawni tasgau syml bob dydd fel codi ac ymolchi deimlo'n anodd weithiau, ond gallant wneud gwahaniaeth mawr i'r ffordd rydych chi'n teimlo.

1. Sicrhewch eich bod yn cael awyr iach

Gall fod yn anodd cymell ein hunain weithiau, ond fu hi erioed yn bwysicach mynd allan am dipyn o ymarfer corff bob dydd. Hyd yn oed os nad ydych chi'n mwynhau ymarfer corff, gall mynd allan am dro helpu i wneud i chi deimlo'n well. Pan fyddwch chi yn y ty, agorwch eich ffenestri, gadewch awyr iach i mewn. Rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n anodd ar hyn o bryd, yn enwedig os nad oes gennych chi fynediad at le sydd y tu allan, fel gardd, ond ceisiwch sicrhau eich bod chi'n dal i ganiatáu awyr iach i ddod i mewn ble bynnag yr ydych chi!

 

2. Bwyta'n iach

Rydyn ni i gyd yn mwynhau bwyta pethau moethus a melys o bryd i'w gilydd, ond gall sicrhau eich bod chi'n bwyta diet iach, cytbwys wella sut rydych chi’n teimlo.

 

3. Cysgu

Gall bod y tu mewn drwy'r dydd effeithio ar gloc eich corff. Ceisiwch sicrhau eich bod yn cael digon o gwsg; dylech fod yn anelu at rhwng 7-8 awr y nos. Os ydych chi'n cael trafferth mynd i gysgu, ceisiwch osod trefn lle rydych chi'n mynd i'r gwely ac yn codi ar yr un amser bob dydd.

 

4. Yfwch ddigon

Mae’n bwysig yfed digon o ddwr. Mae dwr yn helpu'ch corff i olchi allan unrhyw docsinau. Mae sicrhau bod eich corff yn cael digon o ddwr yn ei gwneud hi'n haws i chi ganolbwyntio ar y dasg dan sylw.

 

5. Cadwch at drefn arferol

Gall fod yn anodd ysgogi eich hun i godi yn y boreau pan nad oes gennych chi unman sy’n rhaid i chi fod; fodd bynnag, os ydych chi’n ceisio cadw at drefn arferol, bydd hynny’n eich helpu i gynnal y cydbwysedd rhwng astudio gartref a chael amser i chi'ch hun.

Cynnal cysylltiadau

Mae cadw mewn cysylltiad â'r rhai sy’n annwyl i chi, boed yn ffrindiau, teulu neu gymar, mor bwysig ar hyn o bryd. Gall deimlo'n unig, yn enwedig os nad oes gennych eich rhwydwaith cymorth o'ch cwmpas. Fodd bynnag, rydym i gyd yn wahanol, a byddwn yn gwneud gwahanol ddewisiadau o ran cadw mewn cysylltiad.

Cofiwch fod cymaint o opsiynau ar gael i ni; gwnewch yn siwr eich bod chi'n dewis rhai sy'n gweithio i chi:

  • Ffôn
  • Neges destun
  • E-bost
  • Cyfryngau Cymdeithasol
  • Galwadau Fideo
  • Apiau
  • Llythyron

Cefnogaeth

Rydym yn ymwybodol iawn y bydd y sefyllfa bresennol i lawer yn gyfnod o newid sydyn ar adeg a fyddai fel arall wedi golygu llawer o weithgareddau ar ffurf digwyddiadau wedi'u trefnu neu grwpiau cyfeillgarwch anffurfiol. Mae'r risg o unigrwydd ac arwahanrwydd yn y cyfnod hwn yn ein hatgoffa ni i gyd o bwysigrwydd cadw mewn cysylltiad â’n gilydd.

Mae gan Undeb y Myfyrwyr hefyd dudalen ar y we wedi'i neilltuo ar gyfer Cymorth COVOID-19.

Mae llawer yn ystyried cadw mewn cysylltiad fel un o'r pum prif ffordd i gynnal llesiant da. Rydyn ni wedi creu Grwp Facebook AberSU Covid-19 Peer Support | Cefnogaeth Cymheiriaid i gynorthwyo yn hyn o beth.

Mae'r holl wasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr bellach yn gweithredu o bell a gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar y dudalen we ganlynol https://www.aber.ac.uk/cy/student-support/contact-us/.

Cyngor

Mae Gwasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu fel arfer, ond drwy ddulliau o bell.

Gallwch gysylltu â'r gwasanaeth gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. 

Bydd y gwasanaeth yn cynnig sgyrsiau fideo drwy Zoom, yn ôl yr angen, yn ystod yr amseroedd arferol ar gyfer galw heibio, sef rhwng 10am-12pm ac 1pm-3pm, o ddydd Llun i ddydd Iau. Gallwch ddod o hyd i'r ddolen ar dudalen Facebook Undeb Myfyrwyr Aberystwyth neu ar ein gwefan yn yr hafan o dan ein dolen Facebook.

Ar-lein: Gan ddefnyddio ein ffurflen ymholiadau 

Drwy e-bost: undeb.cyngor@aber.ac.uk

Ffôn: 01970 621712 

Mae'r Brifysgol yn gweithio'n galed i geisio dod o hyd i ddatrysiadau ymarferol i faterion sy'n codi. Cofiwch fod eu tudalen we ar coronafeirws yn cael ei diweddaru'n barhaus. Os nad yw'r Cwestiynau Cyffredin yn ymdrin â'ch ymholiad, e-bostiwch coronafeirws@aber.ac.uk lle bydd yn cael ei drosglwyddo i'r tîm perthnasol i'w ystyried.

Cadwch yn ddiogel ac yn iach.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576