Rydym yn ymwybodol y bydd Coronafeirws (COVID-19) a'r mesurau sy’n gysylltiedig â’r sefyllfa yn cael amryw o effeithiau ar ein myfyrwyr.
Mewn partneriaeth â'r Brifysgol, rydym wedi casglu gwybodaeth ynghyd i'ch cynorthwyo yn ystod yr amser hwn.
Rydym yn ymwybodol iawn y bydd y sefyllfa bresennol i lawer yn gyfnod o newid sydyn ar adeg a fyddai fel arall wedi golygu llawer o weithgareddau ar ffurf digwyddiadau wedi'u trefnu neu grwpiau cyfeillgarwch anffurfiol. Mae'r risg o unigrwydd ac arwahanrwydd yn y cyfnod hwn yn ein hatgoffa ni i gyd o bwysigrwydd cadw mewn cysylltiad â’n gilydd.
Mae llawer yn ystyried cadw mewn cysylltiad fel un o'r pum prif ffordd i gynnal llesiant da. Rydyn ni wedi creu Cefnogaeth Cymheiriaid Covid-19 UMAber ar Facebook i gynorthwyo hyn, ac rydym yn awyddus i hwyluso cysylltiadau rhwng myfyrwyr lle gallwn ni wneud hynny.
Rydym hefyd yn gweithio gyda Chlybiau a Chymdeithasau Chwaraeon i ystyried ffyrdd y gallant ddal ati i ymgysylltu â'i gilydd. Yn nes ymlaen yn y ddogfen mae gennym rai syniadau cynnar ar gyfer ffyrdd y gall myfyrwyr gadw mewn cysylltiad, yn ogystal â gweithgareddau y gellir ymgymryd â nhw.
Dulliau o gadw mewn cysylltiad
Mae yna ystod o ddulliau defnyddiol ar gael ar gyfer cadw mewn cysylltiad â phobl eraill y tu hwnt i’r Facebook, Twitter, Messenger a WhatsApp arferol mae llawer ohonom eisoes wedi arfer eu defnyddio.
Sgwrs fideo: Er ei bod yn wir y gallwn gysylltu â’n gilydd gyda galwadau llais, rhowch gynnig ar ddefnyddio llwyfannau sgwrsio fideo. Mae gweld ystum y corff a mynegiant yr wyneb yn gwneud gwahaniaeth go iawn, a bydd gwahanol amgylchedd yn rhoi ymdeimlad o newid ac amrywiaeth i chi.
Cyfarfodydd, digwyddiadau neu sgyrsiau anffurfiol drwy fideo / rhithwir: Os ydych chi fel arfer yn cwrdd â grwp o ffrindiau i gael cinio neu ddiod yn rhywle, yna beth am ddefnyddio llwyfan fideo grwp fel Zoom i bawb ddod at ei gilydd ar-lein? Mae staff yr UM wedi bod yn cael cinio gyda'i gilydd, ac mae hynny wedi helpu i gadw ymdeimlad o normalrwydd a chysylltiad pan allent fel arall fod ar eu pen eu hunain yn bwyta neu'n cael diod. Mae yna nifer o lwyfannau y gallech chi eu defnyddio:
- Zoom - Mae'r llwyfan fideo-gynadledda hwn am ddim i'w ddefnyddio, ac mae’n caniatáu i ddefnyddwyr gynnal cyfarfodydd o hyd at 100 o gyfranogwyr. Er nad oes cyfyngiad ar nifer y cyfarfodydd y gall defnyddiwr eu cynnal, mae cyfarfodydd gyda mwy nag un person arall wedi'u cyfyngu i 40 munud.
- Timau Microsoft - Efallai bod llawer ohonoch eisoes wedi defnyddio hwn fel rhan o'ch cwrs, ond i'r rhai sydd eto i wneud hynny mae'n caniatáu i chi greu timau (grwpiau) cyhoeddus neu breifat y gallwch chi ychwanegu aelodau atynt, sgwrsio, uwchlwytho a rhannu ffeiliau yn ogystal â chysylltu ag amrywiaeth o apiau.
- Google Hangouts - Mae'r gwasanaeth cyfathrebu hwn yn caniatáu i ddefnyddwyr gychwyn a chymryd rhan mewn sgyrsiau testun, llais a fideo, naill ai un-i-un neu mewn grwp.
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
- Slack - Mae'r gwasanaeth cyfathrebu hwn yn gweithredu fel lle unigol ar gyfer negeseuon, offer a ffeiliau. Mae’n cynnig negeseuon gwib gydag ychwanegiadau o offer eraill gan gynnwys Gmail, Outlook, Google Drive, Microsoft One Drive yn ogystal â llawer o rai eraill.
Rydym yn awyddus i glywed eich syniadau ar sut y gallwn gysylltu myfyrwyr yn fwy ar-lein; os ydych wedi dod ar draws rhywbeth cyffrous a bod gennych awgrym, rhowch wybod i ni drwy e-bostio undeb@aber.ac.uk.
Syniadau ar gyfer gweithgareddau
Mae yna ystod o weithgareddau y gall grwpiau o fyfyrwyr eu trefnu a chymryd rhan ynddynt gan ddefnyddio llawer o'r dulliau y cyfeirir atynt uchod.
Isod mae rhestr gynyddol o weithgareddau a awgrymir y gall grwpiau eu trefnu, wedi’i darparu gan staff a swyddogion o UMAber ac eraill ledled y wlad:
- Ffrydio Byw - dysgwch neu addysgwch sgìl newydd.
- Cwis / Bingo ar-lein
- Gêm GeoGuesser
- Her Ail-bostio Cyfryngau Cymdeithasol
- Parti Gwylio Netflix
- Fitness Class
- Dosbarth Cadw’n Heini
- Cystadleuaeth Bobi ar-lein
- Chwarae gemau fideo ar-lein
- Pictionary
- Gweithgareddau Creadigol e.e. Tynnu lluniau, Gweu a.y.b.
- Clwb Teledu, Ffilm neu Lyfrau
Rydym yn argymell bod pob myfyriwr yn gwirio’n rheolaidd ac yn cadw’n gyfoes drwy Dudalen we Gwybodaeth Coronafirws y Brifysgol. Mae'r dudalen yn cynnwys rhai Cwestiynau Cyffredin defnyddiol a chanllawiau a fydd yn parhau i gael eu diweddaru.
Mae'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn parhau i weithredu a darparu cymorth. Gallwch gysylltu ar gyfer ymholiadau cyffredinol trwy e-bostio
cymorth-myfyrwyr@aber.ac.uk neu ffonio 01970 621761.
Mae Gwasanaeth Cynghori UMAber yn gweithredu fel arfer, ond drwy ddulliau o bell. Gallwch gysylltu drwy e-bostio
undeb.cyngor@aber.ac.uk neu drwy ffonio 01970 621712.
Bydd y gwasanaeth yn cynnig sgyrsiau fideo, fel pe baech yn dal i allu gallw heibio’r swyddfa, ac apwyntiadau yn ôl yr angen, fel arfer rhwng 10am-12pm ac 1pm-3pm, o ddydd Llun i ddydd Iau. Byddwn yn parhau i bostio diweddariadau am y gwasanaeth drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol swyddogol UMAber.
Cofiwch, yn ogystal â'r gwasanaethau uchod mae yna ystod o ddolenni cymorth defnyddiol pe bai eu hangen arnoch chi.
- Erthygl UMAber - Gofalu am eich iechyd meddyliol yn ystod lledaeniad Coronafeirwsk
- Togetherall
- Meddyliau Myfyrwyr
- Erthygl y BBC - Coronafeirws:Sut i ddiogelu eich iechyd meddwl
Er ei bod yn debygol fod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ymwybodol o leoliad siopau yn Aberystwyth, rydym yn sylweddoli y gallai fod pryderon ynghylch cael gafael ar fwyd a chyflenwadau eraill o ganlyniad i'r amgylchiadau presennol.
Mae’n bwysig osgoi prynu mewn panig, gan brynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi. Mae mwyafrif y busnesau bach a'r archfarchnadoedd lleol yn dal i fod ar agor oni chlywn yn wahanol, ac maent yn rhagweithiol gan barhau i gefnogi a gwasanaethu'r gymuned ehangach.
Rydym yn annog myfyrwyr lle bo hynny'n bosibl i barhau i gefnogi busnesau lleol gyda llawer yn parhau i dderbyn cyflenwadau ac yn fwy na pharod i fynd y filltir ychwanegol, gyda rhai yn cynnig gwasanaethau dosbarthu lle bo angen.
Cyfyngiadau mewn archfarchnadoedd
Mae nifer o archfarchnadoedd wedi rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod gan bobl fynediad at hanfodion bob dydd; o’r herwydd mae’n bosib y byddwch yn dod o hyd i gyfyngiadau ar niferoedd rhai eitemau rydych chi'n ei phrynu (fel arfer dim mwy na 2 neu 3 o'r un eitem).
Yn ogystal, mae rhai siopau’n agor am rai oriau cyfyngedig ar gyfer grwpiau penodol gan gynnwys y rhai y mae'r llywodraeth yn eu hystyried i fod â risg uchel, gan gynnwys yr henoed neu'r bregus, yn ogystal â gweithwyr y GIG a gweithwyr gwasanaethau brys.
Mae'n amlwg hefyd bod galw mawr am slotiau dosbarthu ar-lein ac felly rydym yn argymell ystyried archebu slotiau ymlaen llaw; gallwch chi wneud hyn i ddechrau a naill ai ganslo'r archeb neu ychwanegu / tynnu eitemau o'ch basged ar-lein cyn y terfyn amser ar gyfer archebu.
Fodd bynnag, cofiwch fod yn ystyrlon wrth archebu ar-lein os ydych chi’n teimlo'n iach ac yn gallu mynd i'r siop; drwy wneud hynny, byddwch chi'n rhyddhau lle i rywun sy'n sâl neu a allai fod mewn categori risg uchel.
Gan fod y sefyllfa'n symud yn gyflym, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn ymweld â gwefannau archfarchnadoedd sy’n rhan o gadwyn i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
I’ch atgoffa, rydyn ni wedi cynnwys rhestr isod o archfarchnadoedd a busnesau lleol, ac er nad yw’n rhestr gynhwysfawr o'r cyfan sydd ar gael, y nod yw rhoi dewisiadau amgen i fyfyrwyr yn lle'r rhai y gallen nhw fod wedi arfer eu mynychu pe bai eu hangen arnyn nhw.
Archfarchnadoedd / Siopau Mawr
Siopau Bwyd CK - Waun Fawr, SY23 3QH
Archfarchnad - Park Avenue, SY23 1PB
Tesco Express - North Parade, SY23 2JN
Morrisons - Parc y Llyn Retail Park, SY23 3TL
Siop B&M - Parc y Llyn Retail Park, SY23 3TL
Siopau Charlie - Parc y Llyn Retail Park, SY23 3TL
Lidl - Rheidol Retail Park, SY23 1LL
Iceland - Rheidol Retail Park, SY23 1LL
Home Bargains - Ystwyth Retail Park, SY23 1PB
Poundland - Great Darkgate Street, SY23 1DE
Spar (24 Hours) - Terrace Road, SY23 2AE
Spar (Great Darkgate Street) - Great Darkgate Street, SY23 1DE
Spar (Northgate) - Northgate Street, SY23 2JS
Co-op (Penparcau) - Penparcau Road, SY23 1RU
Busnesau Lleol / Mudiadau Cymunedol
Cigyddion Rob Rattray - Chalybeate Street, SY23 1HS
Cigyddion Penparcau - Penparcau Road, SY23 1RN
Jonah’s Fish Market - Cambrian Place, SY23 1NT
Treehouse - Baker Street, SY23 2BJ
Cyfanfwydydd Maeth y Meysydd - Chalybeate Street, SY23 1HX
Bwyd Dros Ben Aber - Chalybeate Street, SY23 1HS
Medina - Market Street, SY23 1DL
Ultracomida - Pier Street, SY23 2LN