Wythnos Refreshers 2023
Yma yn UMAber rydym am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr; a chredwn mai un o'r ffyrdd o wneud hyn yw trwy ymuno â chlybiau chwaraeon a chymdeithasau, er mwyn helpu i ddod o hyd i'ch cymuned yn Aber.
Nid ar gyfer myfyrwyr newydd yn unig y mae Ail Wythnos y Glas - mae'n gyfle i siarad â dros 150 o glybiau chwaraeon a chymdeithasau, darganfod mwy am nifer o gyfleoedd gwirfoddoli a'r hyn sydd gan yr UM ac Aberystwyth i'w gynnig i unrhyw fyfyriwr.
Dyma ychydig o'r digwyddiadau / gweithgareddau rydyn ni wedi'u trefnu:

Ail Ffair y Glas: 30 a 31 Ionawr 2023
Dewch i'n hymuno ar gyfer y Ffair Refreshers (... hefyd yn cael ei galw’n Freshers bach!). Yn digwydd dros 2 diwrnod eleni!
Dyma gyfle i chi gwrdd â’n Clybiau Chwaraeon a’n Cymdeithasau anhygoel; ailgydio yn ein cyfleoedd Gwirfoddoli; a gweld rhai busnesau ac elusennau lleol a chenedlaethol. Bydd ein Tîm Staff UMAber ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at eich gweld!
Rho Gynnig Arni!
31.01.23 - 05.02.23
Nod y digwyddiad yw annog myfyrwyr i gyfranogi yng ngweithgareddau TîmAber ac ymuno â chlybiau a chymdeithasau.
Gan obeithio y byddwch chi’n dod o hyd i rywbeth sydd at eich dant! Cyfranogwch yma!
Cwrdd a Chyfarch
Mae ein sesiynau cwrdd a chyfarch yn ddigwyddiadau cymdeithasol hamddenol ar gyfer myfyrwyr o'r un anian i ddod at eu gilydd yn ystod wythnos y croseo!
Other fun events...
NOS CWIS: Helo eto ReFreshers
Dydd Iau 26ain o Ionawr @ Bar UM, 16:00-19:00
Ymunwch ni ar gyfer quiz ôl arholiad gynhelir gan eich swyddogion, gadewch y straen o arholiadau tu ôl a chael noson o hwyl, cystadleuaeth a trivia! Gwobrau i'w hennill!!! Croeso i dimau ac unigolion, dewch ag 1 ddyfais i bob tîm chwarae'r cwis.
Dywedwch fod chi’n dod yma!
Bingo Lingo
29.01.22, 19:00 - 23:00, UMAber.
Yn fwy rhagweithiol, mentrus a hwyliog nag unrhyw gêm bingo a welwyd erioed, mae Bingo Lingo yn ailddiffinio’r gêm draddodiadol o Bingo, gan ei throi’n noson unigryw, llawn hwyl swnllyd a gwallgofrwydd di-baid sy’n cynnwys pawb, gyda gwobrau a fydd yn newid eich bywyd am byth! Gwerthir tocynnau yn allanol, yma!
DOLENNI DEFNYDDIOL:






Cymryd rhan, ymuno â chlwb chwaraeon neu gymdeithas, cwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd i wneud ein profiad prifysgol y gorau y gall fod yn 2023.