Darllenwch Bolisi Cwynion UMAber cyn cwblhau'r ffurflen hon. Cewch gyngor ac arweiniad anffurfiol gan Wasanaeth Cyngor yr Undeb.
Cyfrinachedd: Caiff data a gwybodaeth a gesglir yn ystod y broses gwyno eu trin yn ddienw. Os bydd y gŵyn yn dangos tystiolaeth o'r posibilrwydd o drosedd neu niwed i unigolyn, mae UM Aber yn cadw'r hawl i dorri'r cyfrinachedd. Mae disgwyl i'r sawl sy'n gwneud cwyn gadw at yr un rheolau ac ymchwilir i unrhyw dor cyfrinachedd fel mater o ddisgyblu. Defnyddir yr wybodaeth hon at ddibenion monitro a chaiff ei storio'n ddiogel. Caiff data ei gadw yn unol â Pholisi Gwarchod Data UMAber a'i ddinistrio ar ôl saith mlynedd.
Tynnu cwyn yn ôl: Mae'n bosibl y byddwch yn dewis tynnu cwyn yn ôl ar unrhyw gam o'r broses. Rhaid cyflwyno penderfyniad i dynnu'r gŵyn yn ôl ar ffurf ysgrifenedig a'i anfon at ceostaff@aber.ac.uk. Dan yr amgylchiadau hyn, bydd Undeb y Myfyrwyr yn asesu'r wybodaeth a gyflwynwyd i ganfod unrhyw risgiau neu gyfrifoldebau cyfreithiol posib. Os ceir risg posib, gallai Undeb y Myfyrwyr barhau i ymchwilio a bydd yn cadw gwybodaeth fel yr amlinellir uchod. Os nad oes dim risg, bydd Undeb y Myfyrwyr yn ystyried a oes angen cadw gwybodaeth, ac os nad oes, caiff yr wybodaeth ei dinistrio.
Ni ddelir â dim cwyn dienw.
Cyflwyno'r gŵyn: Llenwch y ffurflen hon ac anfonwch hi ar-lein. Caiff eich cwyn ei chydnabod o fewn pum niwrnod.
Yn anffodus, nid oes cefnogaeth gyflawn ar gael ar hyn o bryd ar gyfer rhai fersiynau o Safari ar ddyfeisiadau Apple. Os ydych chi’n cael problemau wrth geisio cyrchu neu gwblhau’r ffurflen, byddem yn eich cynghori i roi cynnig ar borwr gwahanol (e.e. Chrome, Firefox, Edge).