Beth yw UMCA | Digwyddiadau UMCA | Clybiau a Chymdeithasau | Yr Heriwr | Cyfansoddiad
Beth yw UMCA?
Beth yw UMCA?
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA)
Llywydd 2020-21: Moc Lewis
- Undeb sydd yn galluogi i chi ddysgu a chymdeithasu drwy’r Gymraeg.
- Cafodd ei sefydlu yn 1973 ar gyfer gwarchod hawliau a buddiannau ac ymgyrchu dros fyfyrwyr Cymraeg yn y Brifysgol.
- Cartref yr Undeb yw yn neuadd Pantycelyn; mae swyddfa UMCA wedi'i leoli yma, fel bod modd i’r aelodau i gyd cael gafael arnaf unrhyw bryd. Mae Pantycelyn yn ail-agor eleni, a bydd nifer ohonoch yn cael blas o fywyd unigryw UMCA trwy fyw yno. Felly mae blwyddyn gyffrous iawn o’n blaenau er mwyn sicrhau bod Pantycelyn yn rhoi hwb i'r iaith Gymraeg yma yn Aber unwaith eto.
- Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi sicrhau fod gan y Brifysgol a’r Undeb Myfyrwyr bolisi dwyieithrwydd; hynny yw bod Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol yn cynhyrchu popeth yn ddwyieithog ac yn rhoi statws cyfartal i’r Gymraeg, fel ei bod yn rhan o fywyd holl fyfyrwyr Aberystwyth. Yn ogystal rydym yn darparu gwersi Cymraeg i ddysgwyr yn rhad ac am ddim ac yn cyfathrebu gyda myfyrwyr o wledydd eraill am y Gymraeg.
- Flwyddyn yma, rydym falch o gyhoeddi fod aelodaeth UMCA yn rhad ac am ddim unwaith eto. Bydd yr aelodaeth am ddim yn cael ei gynnig i fyfyrwyr sydd wedi sefyll TGAU Cymraeg (Iaith Gyntaf). Ond bydd angen i'r myfyrwyr ymaelodi i fod yn rhan o UMCA. Bydd modd iddynt ddad-ddanysgrifio ar unrhyw adeg, a bydd UMCA yn gyfrifol am gadw cofnodion priodol am yr aelodaeth.
- Amser i fwynhau a chreu atgofion yw eich blynyddoedd fel myfyriwr, ac mae UMCA yn sicrhau boddhad i'w aelodau flwyddyn ar ôl blwyddyn trwy gynnig amrywiaeth eang o adloniant, megis tripiau o amgylch ardal Aberystwyth a chynnal gigs achlysurol.
Cysylltwch - umca@aber.ac.uk neu yn fy swyddfa ym Mhenbryn neu yn yr Undeb.
@UMCA_
UMCA
umcaberystwyth
umcaber
Y Pwyllgor

