
YMUNWCH â'r TÎM-A! Y GLAS A THUHWNT!
Gwirfoddolwch i fod yn rhan o'r Tîm A ar gyfer 2020/21!
Myfyrwyr sy'n gwirfoddoli yw'r Tîm A sy'n croesawu myfyrwyr newydd ac yn eu helpu i ymgartrefu ym Mhrifysgol Aberystwyth dros Wythnos y Glas, yn ogystal â chynnig cymorth mewn digwyddiadau mawr eraill gydol y flwyddyn.
Rydyn ni'n chwilio am fyfyrwyr presennol sydd am rannu eu gwybodaeth a'u brwdfrydedd dros bopeth yn Aber, yn ogystal â helpu Undeb y Myfyrwyr i ddarparu gweithgareddau a digwyddiadau yn ystod Wythnos y Glas a'r tu hwnt iddi!
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Disgrifiad o rôl y Tîm A (Wythnos y Glas):
- Cwrdd â myfyrwyr a rhieni newydd (yn y dref ac ar y campws)
- Helpu myfyrwyr i ddod o hyd i'w llety a symud i mewn iddo
- Byddwch wrth law i ateb cwestiynau a chyfeirio myfyrwyr i lefydd ac at wasanaethau a gweithgareddau ar y campws
- Helpu gyda'r 'Arwerthiant Mawr', Ffair y Glas neu i gofrestru myfyrwyr
- Gyrrwr Bws Mini (dros 21)
- Sicrhau bod myfyrwyr yn ddiogel yn y dref (tîm y nos)
- Helpu myfyrwyr sydd ar goll, yn flinedig neu'n emosiynol (tîm y nos)
- Gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau lleol a mudiadau partner (tîm y nos)
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Manteision ymuno â'r Tîm A
|
Mae'n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a mwynhau
|
Cewch grys-T a bwyd am ddim
(darperir bwyd yn ystod yr hyfforddiant ac Wythnos y Glas)
|
Byddwch yn datblygu sgiliau ar
gyfer eich CV
|
Cewch aelodaeth am ddim
o Dîm Aber
|
Gweithio at dystysgrif wirfoddoli
|
Byddwch yn teimlo balchder wrth wybod eich bod chi wedi helpu myfyrwyr i
ymgartrefu a chael profiad cadarnhaol yn y Brifysgol
|
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Ar ôl y Glas – Y flwyddyn o'n blaenau
Gydol gweddill y flwyddyn, bydd modd i chi helpu gyda llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill a chewch yr wybodaeth ddiweddaraf pan fydd ar gael. Chi gaiff penderfynu faint o amser rydych chi'n ei ymroi a pha weithgareddau rydych chi'n eu dewis ar ôl Wythnos y Glas. Dewiswch y gweithgareddau sydd o ddiddordeb mwyaf i chi!
Ymhlith y cyfleoedd eraill i wirfoddoli mae:
Superteams || Rygbi 7 bob ochr || Wythnos Myfyrwyr yn Gwirfoddoli || Ail Wyl y Glas || Varsity
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
HANFODOL: Hyfforddiant ac ymrwymiad amser
Er mwyn i chi ddeall eich rôl a chwrdd â gweddill y tîm, rhaid i bob gwirfoddolwr fynychu hyfforddiant ddydd Iau 15 Medi (amseroedd i'w cadarnhau).
Yn ystod y Penwythnos Croeso (18 – 20 Medi) byddwn ni'n gofyn i'r gwirfoddolwyr ymrwymo o leiaf 5 awr o'u hamser bob dydd i helpu gyda gweithgareddau a helpu myfyrwyr sy'n cyrraedd yn ystod y dydd neu gyda'r nos.
Yn ystod y Wythnos y Glas (21 – 27 Medi) byddwn ni'n gofyn i'r gwirfoddolwyr ymrwymo o leiaf 6 awr o'u hamser bob dydd i helpu myfyrwyr sy'n cyrraedd yn ystod y dydd neu gyda'r nos.
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
SUT I YMGGEISIO:
Llenwch y ffurflen isod gan sicrhau eich bod chi'n cyfeirio at y fanyleb person yn y cwestiynau perthnasol.
Bydd gofyn i bob ymgeisydd fynychu diwrnod anffurfiol yr ymgeiswyr a fydd yn cynnwys tasg grwp a gwybodaeth bellach am y rôl.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglyn â'r Tîm A, mae croeso i chi holi. Cewch e-bostio Amy Goodwin (alg51@aber.ac.uk) neu cewch ddod i mewn am sgwrs.