------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
MENTORA CYFOEDION YN ADRANNAU ABERYSTWYTH
Ymunwch â thîm mawr o fentoriaid myfyrwyr i helpu myfyrwyr newydd ar eu blwyddyn gyntaf:
- Cewch hyfforddiant penodol mewn gwrando gweithredol a chyfeirio at wasanaethau cymorth o fewn y Brifysgol.
- Byddwch yn meithrin sgiliau a nodweddion gwerthfawr ar gyfer eich CV.
- Gallwch ddefnyddio eich profiad yn y Brifysgol i helpu eraill.
- Caiff eich oriau eu hachredu gan Hyb y Gwirfoddoli a'u hychwanegu at eich tystysgrif HEAR (Cofnod o Gyraeddiadau).
- Cewch gyfle i ennill Gwobr Mentor y Flwyddyn.
- Byddwch yn bwynt cyswllt cyntaf cyfeillgar ar gyfer myfyrwyr newydd.
- Bydd gennych gyfle i wneud gwahaniaeth, boed fawr neu fach.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
RYDYM YN RECRIWTIO'N FLYNYDDOL, GAN GYSYLLTU Â CHYDLYNWYR PENODOL YM MHOB
DRAN ACADEMAIDD
Beth mae hyn yn ei olygu?
- Mynychu hyfforddiant cyn pennu'r sawl y byddwch yn eu mentora.
- Anfon negeseuon e-bost cychwynnol i gysylltu.
- Cwrdd â'r sawl y byddwch yn eu mentora yn ôl yr angen (awgrymwn 2-3 o gyfarfodydd y tymor â phob un ohonynt).
- Bod yno i ateb cwestiynau drwy e-bost.
- Helpu myfyrwyr i setlo i mewn a dod o hyd i bopeth sydd gan Brifysgol Aber i'w chynnig.
- Bod yno ar gyfer problemau nad oes angen tiwtoriaid personol na'r adran cymorth i fyfyrwyr i'w datrys.
- Mynychu'r gynhadledd adrannol flynyddol ar gyfer mentoriaid.
Yr hyn yr ydym ei eisiau gennych chi
- Person cyfeillgar a thosturiol
- Sgiliau cyfathrebu da
- Gwybodaeth dda am gyfleusterau'r Brifysgol
- Sgiliau gwrando da
- Trefnus a dibynadwy
- Y Gymraeg (dymunol ond nid yn hanfodol)
- Brwdfrydig dros am helpu eraill
Beth sy'n digwydd nesaf?
Yn dilyn eich cais, caiff manylion eu trosglwyddo i gydlynwyr mentora pob adran, er mwyn rheoli'r broses recriwtio a dethol. I wneud cais...