Ail gynnig: ar ôl gorfod canslo digwyddiad 2020 a'i gynnal ar-lein yn 2021, mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ynghyd ag Undeb Myfyrwyr Bangor yn hapus i gyhoeddi GWYL y CYMDEITHASAU newydd sbon!
Bydd 'Gwyl y Cymdeithasau' yn cael ei chynnal ochr yn ochr â 'Varsity Aber / Bangor' (26 Mawrth) eleni. Rhwng y 20fed - 26fed o Mawrth 2022.
Mae’r digwyddiad hwn wedi’i anelu at bob math o gymdeithasau; bydd yn rhoi cyfle i chi gwrdd a chymdeithasu â’ch cyfoedion ym Mhrifysgol Bangor. Yn wahanol i natur gystadleuol Farsiti, mae’r noson hon yn mynd i feithrin ymdeimlad o gymuned â thir cyffredin rhwng y naill brifysgol a’r llall, gan ddod â myfyrwyr yn nes at ei gilydd i gyfoethogi eu profiadau.
Os hoffech chi wybod mwy am y digwyddiad, cysylltwch â’ch Swyddog Cyfleoedd i Fyfyrwyr, Rachel Barwise.

Pryd: 26fed Mawrth 2022 | Ble: Aberystwyth
Amcan: Rhoi cyfle i chi rwydweithio a chymdeithasu â myfyrwyr tebyg i chi ym Mhrifysgol Bangor
Cymdeithasau sy’n Cyfranogi: TBC

