*GWASANAETH BWS 03*
*Diweddariad Ionawr 2021
Diweddariad ar wasanaethau Mid Wales Travel
Mae gwasanaethau bws yn gyfyngedig ar hyn o bryd oherwydd canllawiau teithio hanfodol yn unig yn sgil Covid-19.
Gweler yr amserlen yma am wasanaethau.
*Mae’r 301 a’r 512 yn gollwng teithwyr ar y campws, neu gerllaw, ar gyfer unrhyw un sydd am gyrraedd y campws.
*Diweddariad Medi 2020
Mae gennym ni drefn newydd ar gyfer casglu cardiau bws ar gyfer y flwyddyn academaidd hon (er mwyn osgoi ciwiau ac i annog mesurau cynnal pellter cymdeithasol):
1. Archebwch eich cerdyn bws ar-lein (isod)
2. Tynnwch lun fel llun pasbort ohonoch eich hun
3. Anfonwch eich e-bost cadarnhau, ac atodwch eich llun, at undeb@aber.ac.uk (mae hyn yn cynnwys eich rhif cyfeirnod er mwyn gallu cysylltu’r llun â’r archeb gywir)
Bydd eich cerdyn yn barod i’w gasglu o dderbynfa’r UM o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Amserau casglu: 10am – 4pm o’r 22 Medi, bob dydd yn ystod y cyfnod croeso (Penwythnos y croeso mawr a’r wythnos ymgyfarwyddo) – yn ystod yr wythnos ar ôl hynny
Treuliwch 15 munud ychwanegol o'r bore yn y gwely i osgoi unrhyw wynt, y glaw, yr oerni a'r daith gerdded i fyny'r allt!
Dyma'r hyn cewch chi gyda'r Cerdyn Bws i Fyfyrwyr / Staff:
- Teithio diderfyn ar holl fysiau Mid Wales Travel yn Aberystwyth
- Teithio diderfyn rhwng yr holl gampysau: Penglais, Llanbadarn a Gogerddan
- Disgownt ar deithiau y tu hwnt i Aberystwyth:
- hanner pris ar fysiau Mid Wales Travel
- Aberystwyth i Gaerfyrddin ar y T1 am £3 yn unig
Mae cymaint o lwybrau bws i'w dewis o'u plith:
- 03*, 301 – Sy'n mynd i mewn i Gampws Penglais
- 512 - Sy’n galw heibio Campws Penglais
- ... a mwy. Ewch i wefan Mid Wales Travel i weld yr amserlen gyflawn www.midwalestravel.co.uk/services
*Oherwydd y parthau diogel yng nghanol tref Aberystwyth ar hyn o bryd, bydd yna newid bach yn y gwasanaeth 03 dros dro:
8:35 – 10:30am: Gwasanaeth fel arfer gan godi pobl yng nghanol y dref.
10:30am ymlaen: Codi o’r Orsaf Fysiau a Rhodfa’r Gogledd yn unig oherwydd bod y ffordd ar gau.
£98
Yn ddilys rhwng 21/09/2020 - 29/05/2021
Pethau pwysig
- Cofiwch yrru llun 'steil passport' ohonnoch eich hun gyda'ch ebost cadarnhau archeb at union@aber.ac.uk
- Casglwch eich cardiau bws Mid Wales Travel o dderbynfa Undeb y Myfyrwyr.
- Dewch â'ch cerdyn myfyriwr/staff gyda chi.
- Ewch i dudalen Facebook MWT am y rheolau diweddaraf ar sut i deithio’n ddiogel ac i gael gwybodaeth am deithio.”
Cwestiynau?
Cwestiynau cyffredin
Oes gwerth prynu Cerdyn Bws MWT?
Dyma enghraifft; os ydych chi'n fyfyriwr sy'n bwriadu mynd i Gampws Penglais o'r dref, dim ond yn ystod y tymor, dim ond 4 gwaith yr wythnos, un ffordd yn unig, yna heb Gerdyn Bws, byddech chi'n talu:
29 o wythnosau x 4 gwaith yr wythnos x £1.20 y daith = £139.2
Pe baech chi'n defnyddio'r bws ddwywaith y dydd (e.e. taith ddychwelyd, siopa) buasai hynny’n costio £278.40
Hefyd,
- does dim angen i chi gario newid
- mae'r bws yn ddiogelach
- byddwch chi’n osgoi’r glawL, yr allt, y gwynt, yr oerni, a gorfod cario’ch siopa
Os nad oes gennych chi Gerdyn Bws MWT, faint fydd cost un tocyn bws i deithio yn Aberystwyth neu i gampws Gogerddan?
- £1.20 yn y dref
- £1.80 i Ogerddan
O ble ga i afael ar amserlen?
Ewch i wefan MWT: www.midwalestravel.co.uk/services
Gallwch hefyd gael gafael ar amserlen brint o dderbynfa Undeb y Myfyrwyr.
Ble ga i gasglu fy Ngherdyn Bws?
Cewch dalu amdano ar umaber.co.uk/teithio
Mae angen i chi i gasglu a thynnu eich llun yn nerbynfa Undeb y Myfyrwyr.
O ble ga i gasglu fy ngherdyn?
Desg Groeso Undeb y Myfyrwyr, Campws Penglais, Aberystwyth, SY23 3DX. Oriau agor yn ystod y tymor: 9am – 5pm, 01970 62 17 00
Pwy all brynu Cerdyn Bws MWT?
- Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sydd â cherdyn myfyriwr dilys
- Staff y Brifysgol
- Staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Staff a Myfyrwyr Coleg Ceredigion
Oes modd i mi rannu fy Ngherdyn Bws MWT gyda ffrind?
Nac oes.
Beth fuasai'n digwydd pe bawn i'n colli fy ngherdyn?
Peidiwch. Byddai'n creu cyfle i bobl anonest ei ddefnyddio a bydd y cwmni bws yn delio â hynny drwy gymryd eich cerdyn oddi wrthych. Os byddwch chi'n colli eich Cerdyn Bws, cewch un newydd wrth dderbynfa Undeb y Myfyrwyr am £10.
Beth fyddai'n digwydd pe bawn i'n gadael y brifysgol cyn i fy Ngherdyn Bws ddod i ben?
Mae pris Cerdyn Bws MWT yn seiliedig ar gyfnodau penodol ac ni fyddwn ni'n ad-dalu unrhyw gostau.
Os bydd amgylchiadau anghyffredin, cysylltwch â MWT yn uniongyrchol ar 01970 828 288.
Telerau ac Amodau
- Ni chewch ddefnyddio cardiau bws Mid Wales Travel ynghyd â thocynnau wythnos neu unrhyw gyfuniad arall o gynigion.
- Codir £10 am gerdyn bws Mid Wales Travel newydd os digwydd i chi ei golli neu ei niweidio.
Datganiad Diogelu Data
Wrth ddarparu fy ngwybodaeth, deallaf fod gofyn i mi ddarparu fy manylion, fel yr amlinellir isod, i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, a'u bod yn cael eu cadw yn unol â Deddf Diogelu Data (DPA) 2018 a gyda'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), ynghyd â pholisïau diogelu data'r Brifysgol ac UMAber. Byddant yn cael eu cadw ar y sail bod gan UMAber hawl dilys i’w prosesu a'i bod hefyd yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract.
Cedwir manylion am hyd at bedair blynedd fel cofnod o gyfranogiad ac at ddibenion ystadegol. Gall myfyrwyr wrthwynebu rhai agweddau ar brosesu drwy e-bostio undeb@aber.ac.uk . Adolygir Datganiad a Pholisi Diogelu Data’r Undeb yn flynyddol i sicrhau cydymffurfiaeth, ac mae ar gael ar gais neu drwy ymweld â: www.umaber.co.uk/ynglynagaber/diogeludata
Pa fanylion sydd angen i chi eu rhannu â ni?
- Enw
- Rhif Myfyriwr
- Hefyd, nodwn ddyddiad y gwerthiant, ffurf y taliad ac a yw’r prynwr yn aelod staff neu’n fyfyriwr, yn ogystal â thynnu llun yr unigolyn i'w argraffu ar gerdyn
Pam ydym ni'n casglu'r data yma?
- I gadw cofnod o gardiau a werthwyd
- I gyflwyno Cerdyn Bws
- I gyflwyno cardiau yn lle’r rhai a gollwyd am gost o £10 - nid y pris llawn
- Er mwyn ymladd twyll posibl
- I gysylltu â chi os daw cerdyn coll i’n meddiant
Gweler Polisi Diogelu Data llawn Undeb y Myfyrwyr yma:
https://www.umaber.co.uk/ynglynagaber/diogeludata/