Mae Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr yn rhoi cyfle i chi ac i bob myfyriwr arall bleidleisio ar y materion wrth law a chwarae rhan uniongyrchol mewn newid Aber.

I ganfod mwy ynglyn â Phleidleisiau'r Holl Fyfyrwyr, dyma ein canllawiau.


A ddylai Siop Undeb y Myfyrwyr gael gwerthu

papurau-newydd?

Mae'r pleidleisiau wedi cael eu casglu, eu cyfrif a'u cadarnhau! Derbyniwyd cyfanswm o 755* pleidlais, felly diolch i bawb fu'n cymryd rhan! Mae'r ymgyrch 'O blaid' wedi derbyn mwyafrif gyda 556 pleidlais o gymharu â'r ymgyrch 'Yn erbyn' a dderbyniodd 192 pleidlais, felly mae hyn yn golygu y caiff y polisi presennol 'Nid newyddion mo bronnau' ei ddileu. Caiff mwy o wybodaeth ei rhyddhau'n fuan ar beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf! [*7 Ymataliadau]


Mae popeth rydych angen ei wybod am Bleidlais yr Holl Fyfyrwyr gyntaf 2016 i'w weld ar y tudalennau hyn. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn cadarnhau'r manylion olaf, a bydd y dadleuon gan yr ymgyrchoedd 'Dylai' a 'Na ddylai' ar gael yn fuan iawn.

Yn y cyfamser, dyma'r holl wybodaeth y byddwch ei hangen ynglyn â sut mae Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr yn gweithio, dyddiadau allweddol a'r cwestiwn a ofynnir ar 4ydd Mawrth.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, yna anfonwch e-bost at y tîm yn undeb.democratiaeth@aber.ac.uk

Nid newyddion ydy Bronnau

Dyddiadau Allweddol:

  • Dydd Llun 1af Chwefror, 6pm: Cyhoeddiad Swyddogol Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr, Cyfarfod Cyngor yr Undeb
  • Dydd Gwener 4ydd Mawrth, 12pm: Dyddiad cau cofrestru ar gyfer yr ymgyrchoedd 'Dylai' a 'Na ddylai'
  • Dydd Llun 7fed Mawrth, 10am: Ymgyrchu Swyddogol yn Dechrau
  • Dydd Gwener 11eg Mawrth, 9am – 4pm: Cyfnod Pleidleisio

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576