Holi'r Swyddogion "3 phrif awgrym ar gyfer glasfyfyrwyr"

Fresherswelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Holi'r Swyddogion "Beth fyddai dy 3 phrif awgrym ar gyfer unrhyw fyfyrwyr newydd sy'n dechrau yn Aberystwyth ym mis Medi"?

 

Chloe - Swyddog Materion Academaidd

1.            Ymunwch â chlwb neu gymdeithas! Mae pob myfyriwr newydd sy'n dod i Aber yn yr un cwch â chi, a'r ffordd orau i chi ddod o hyd i'ch teulu Aber yw trwy gwrdd â phobl sydd â’r un diddordebau â chi!

2.            Peidiwch â bod ofn gofyn am help. Mae cymaint o bobl o gwmpas sy'n fwy na pharod i'ch pwyntio i'r cyfeiriad cywir ar gyfer unrhyw beth. Nid oes y fath beth â chwestiwn gwirion, dim ond un doniol efallai! Os ydych chi byth angen unrhyw beth o gwbl, galwch heibio i swyddfa’r UM. Mae gennym ni'r atebion!

3.            Peidiwch â bwyta yn yr awyr agored. Byth. Mae'r gwylanod yn adar drwg, sy’n dwyn unrhyw beth.

 

 

Connor - Swyddog Llesiant

1.            Ymunwch â chymdeithas neu glwb; mae yna grwp i bawb!

2.            Cerwch am dro o amgylch y dref; rydych chi mewn lle hardd ac mae digon i'w weld.

3.            Peidiwch â bod ofn gofyn am help, mae pawb yn y brifysgol yn wirioneddol gyfeillgar ac yn hapus i'ch cynorthwyo gydag unrhyw beth rydych chi angen help ag ef.

 

Moc - Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA

1.            Mae pobl yn aml yn dweud wrthych chi fel myfyriwr am bwysigrwydd cymdeithasu neu bwysigrwydd gweithio'n galed, ond fy awgrym cyntaf i unrhyw fyfyriwr fyddai sicrhau cydbwysedd iach rhwng y naill a’r llall.

2.            Ymunwch â chymdeithas neu dîm chwaraeon. Rwyf wedi cwrdd â chymaint o bobl ac wedi gwneud cymaint o bethau anhygoel trwy wahanol gymdeithasau a thimau, a byddech yn wirioneddol yn colli allan pe baech chi ddim yn ymuno ag o leiaf un.

3.            Byddwch yn chi'ch hun, mae'n debyg mai dyma fy argymhelliad pwysicaf. Byddwch yn chi'ch hun; byddwch chi'n cwrdd â mwy o bobl rydych chi'n eu hoffi a phobl sy’n eich hoffi chi.

 

 

Nate - Llywydd yr Undeb

1.            Ymunwch â chlwb chwaraeon neu gymdeithas - byddwch chi'n cwrdd â phobl yn y brifysgol na fyddech chi efallai wedi cwrdd â nhw fel arall, a byddwch chi’n gwneud ffrindiau gwych.

2.            Dysgwch sut i goginio a chymryd eich tro i wneud hynny gyda'ch cyd-letywyr (Rhywbeth y mae’n dal i fod angen i mi ei wneud)

3.            Mae’n bwysig cael hwyl, ymlacio a mwynhau'ch hun! Bydd eich amser yn y brifysgol yn mynd yn llawer cyflymach nag yr ydych chi'n meddwl. Gwnewch yn siwr eich bod chi'n mwynhau pob eiliad a'i wneud yn brofiad anhygoel!

 

 

Wojtek - Swyddog Cyfleoedd i fyfyrwyr

1.            Ymunwch â chymaint o glybiau/cymdeithasau ag sy’n denu eich sylw, a dewch o hyd i'r rhai sy'n gweddu i'ch amserlen.

2.            Peidiwch â gwario arian ar brydau bwyd parod, yn hytrach coginiwch i chi'ch hun - mae'n iachach ac yn rhatach ... a gallwch chi bob amser ddod o hyd i'r holl ryseitiau sydd eu hangen ar-lein.

3.            Peidiwch ag aros o gwmpas am y cyfle perffaith i wneud rhywbeth (gofynnwch iddo/iddi am ddêt, ymunwch â chymdeithas, ewch am dro), rhaid i chi greu'r cyfle trwy EI WNEUD. Efallai na fyddwch chi'n llwyddiannus y tro cyntaf, ond heb roi cynnig arni does dim siawns y byddwch chi'n llwyddo. Mae bywyd yn rhy fyr i fod yn aros o gwmpas beth bynnag.

 

 

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576