Fy enw i yw Tomos Ifan, Swyddog Materion Cymreig a Llywydd UMCA 19/20.
Dw i'n wreiddiol o Gaerdydd ond bellach yn rhannu fy amser rhwng y gogledd, y de a'r canolbarth.
Astudiais Wyddor Anifeiliaid yma yn Aberystwyth am dair blynedd a mwynhau pob eiliad!
Penderfynais sefyll am y rôl oherwydd rhoddodd UMCA dair blynedd o fwynhad i mi a dw i eisiau sicrhau bod UMCA yn mynd o nerth i nerth.
Beth fyddai eich 3 phrif awgrym ar gyfer unrhyw fyfyrwyr newydd sy'n dechrau yn Aberystwyth ym mis Medi?
Fy 3 'top tip' buasai i ymuno â chlybiau a chymdeithasau gwahanol, manteisio ar bob cyfle a mwynhau pob eiliad o ryddid bywyd coleg
Enwch rai achosion sy'n bwysig i chi. What are some causes you care about?
Yes Cymru, EU, Aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd i Gymru
Pe gallech chi newid un peth ym Mhrifysgol Aberystwyth, beth fyddai hynny?
Mi fuaswn yn cynnig mwy o fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg
Dewiswch dri gair sy'n eich disgrifio orau penderfynol, gweithgar a Chymro
Beth yw eich hoff bryd bwyd?
Fy hoff bryd o fwyd ydy cinio dydd Sul
Do you have any hobbies or interests?
Fy niddordebau ydy chwarae rygbi a ffarmio
Beth yw eich hoff leoliad yn Aberystwyth?
Fy hoff le yn Aberystwyth ydy'r Hen Lew Du
Enwch hoff le rydych chi wedi ymweld ag e, a dwedwch pam.
Fy hoff le ydy ffarm fy nain a fy nhaid
Pe baech chi'n uwch-arwr, pa bwerau fyddai gennych chi?
Buaswn i'n gallu 'teleportio'