Yn cyflwyno Swyddog Llesiant newydd

welsh

Helo!
Fy enw i yw Lydia, a fi yw Swyddog Llesiant yr UM, sy’n golygu mai fy swyddogaeth i yw sicrhau bod Aber yn lle diogel, lle gall myfyrwyr fod mor hapus ac iach â phosib. Fy rheswm dros sefyll ar gyfer y rôl hon oedd oherwydd fy mod i’n angerddol iawn am hunan-ofal, felly buaswn wrth fy modd helpu cynifer o fyfyrwyr â phosib i ddechrau neu barhau â’u taith hunan-ofal nhw Rwyf hefyd wrth fy modd â’r môr, nofio a syrffio, felly dwi’n dipyn o eco-filwr. Felly, dros y flwyddyn nesaf, rwyf yn bwriadu rhoi pwysedd ar y Brifysgol i fod yn fwy cydnaws â’r amgylchedd nag erioed.
Astudiais Ysgrifennu Creadigol yn y Brifysgol, a does dim byd gwell gen i na gorwedd ar y traeth a darllen am oriau (os yw’r tywydd yn caniatáu). Ond dwi’n fyw o fardd fy hun, ac nid yw’n gyfrinach y gallaf fod ychydig yn emosiynol, felly peidiwch â bod ofn mynegi eich teimladau.
Credaf fod Aberystwyth yn lle hyfryd iawn, yn llawn pobl anhygoel, felly dwi’n hapus iawn i fod yn treulio blwyddyn arall yma!

 

Beth fyddai eich 3 phrif awgrym ar gyfer unrhyw fyfyrwyr newydd sy'n dechrau yn Aberystwyth ym mis Medi?

1) Ewch i gymaint o ddigwyddiadau cymdeithasol â phosib
2) Rhowch gynnig ar gamp/gweithgaredd nad ydych chi erioed wedi’i wneud o'r blaen
3) Cerddwch i fyny’r Graig Lais a sylweddoli pa mor hardd yw Aber

 

Enwch rai achosion sy'n bwysig i chi.         

Lles anifeiliaid, feganiaeth a newid hinsawdd.

 

Pe gallech chi newid un peth ym Mhrifysgol Aberystwyth, beth fyddai hynny? 

Buaswn yn gwneud y gwylanod yn fwy cyfeillgar!

 

Dewiswch dri gair sy'n eich disgrifio orau. 

Cariadus, iach a hapus

 

Beth yw eich hoff bryd bwyd?         

Spaghetti Bolognese fegan fy mam!

 

Oes gennych chi unrhyw hobïau neu ddiddordebau?        

Dwi wrth fy modd â ioga, cerdded, nofio gwyllt, syrffio ac unrhyw beth sy’n ymwneud ag anifeiliaid.

 

What is your favourite Aberystwyth hangout?      

Tafarn Rummers

 

Enwch hoff le rydych chi wedi ymweld ag e, a dwedwch pam.    

Tryfan yn Eryri. Rwyf wedi bod yno pan oedd hi mor oer nes bod y mynydd wedi’i orchuddio ag eira a rhewodd fy ngwallt; dwi hefyd wedi bod yno mewn gwres llethol, a chefais gyfle i nofio yn y llyn ar y gwaelod. Dyma un o fy hoff lefydd oherwydd ei fod mor hardd, beth bynnag fo’r tywydd; ar y ddau achlysur y bum i yno, roeddwn i gyda fy nhad, sy'n un o fy hoff bobl!

 

Pe baech chi'n uwch-arwr, pa bwerau fyddai gennych chi?

Buaswn i’n gallu rheoli’r elfennau a chyfathrebu ag anifeiliaid.

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576