Ddydd Llun cynhaliwyd y Cyfarfod Mawr! Y Cyfarfod Mawr yw ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, sy'n gyfangwbl dan arweiniad myfyrwyr. Mae gofyn i 100 o fyfyrwyr fod yn bresennol - eleni mynychwyd y cyfarfod gan 157 o fyfyrwyr.
Gan ei fod yn Gyfarfod Mawr, ymdriniwyd â sawl agwedd ar fusnes, gan gynnwys cymeradwyo sefydliadau mae’r undeb yn ymaelodi â nhw yn ogystal â phenodi archwilwyr a swyddog etholiadau.
Yna symudwyd ymlaen i'r syniadau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr, gyda'r syniadau canlynol yn cael eu pasio:
- Newid y system bleidleisio - Pasiodd myfyrwyr bolisi i'r Undeb gyflwyno system bleidleisio anhysbys yng nghyfarfodydd y Senedd, yn hytrach na defnyddio cardiau pleidleisio.
- Masgot Tîm Aber - Pasiodd myfyrwyr bolisi i’r Undeb brynu masgot Tîm Aber a all fynychu gemau BUCS.
- Rydym am weld cyllid ar gyfer Chwaraeon - Pasiodd myfyrwyr bolisi i'r Brifysgol gynyddu buddsoddiad, gydag Astroturf newydd yn cael ei flaenoriaethu dros gynlluniau adnewyddu sydd eisoes ar y gweill.
- Gwnewch Aberystwyth y Brifysgol Gynaliadwy o ran Olew Palmwydd Gyntaf yn y DU - Pasiodd myfyrwyr bolisi i’r Brifysgol werthu Olew Palmwydd cynaliadwy yn unig.
- Clir a chryno - Pasiodd myfyrwyr bolisi i ganiatáu aelodau’r Senedd i gyflwyno un gwelliant ar gyfer syniad brys yn ystod cyfarfodydd y Senedd.
- Gwrthwynebu’r penderfyniad i foicotio strategaeth Prevent - Pleidleisiodd myfyrwyr i wrthdroi'r penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod diwethaf i foicotio Prevent.
Pasiwyd pob syniad yn y cyfarfod, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth derfynol gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Bydd y cyfarfod nesaf yn gyfarfod y Senedd ar ddydd Llun 25 Chwefror. Gall pob myfyriwr gyflwyno syniadau a siarad yn y Senedd, fodd bynnag, dim ond aelodau o'r Senedd gaiff bleidleisio. Y dyddiad cau ar gyfer Syniadau yw dydd Llun 11 Chwefror.