Wythnos Arian Myfyrwyr 2019

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Helo, fi sydd yma eto! 

Rwy'n gobeithio eich bod chi i gyd yn iawn, a’ch bod wedi cael trefn ar eich holl wisgoedd Calan Gaeaf. Yr wythnos hon yw Wythnos Arian Myfyrwyr UMAber, sy'n golygu ei bod hi'n amser am fy ail blog a'r ail gasgliad o awgrymiadau - y tro hwn yn ymwneud ag arbed ceiniogau. I lawer ohonoch, hwn fydd y tro cyntaf i chi ddelio â llawer o'r gwariant newydd a ddaw yn sgil bywyd yn y brifysgol, o bethau syml fel siopa bwyd i dalu rhent - sy’n gallu bod yn waith eithaf caled. Felly, dyma fy awgrymiadau, ac rwy’n gobeithio y byddant o gymorth i chi: 

  1. Mynnwch gerdyn Totum a / neu ymunwch ag UniDays - Mae'r ddau yma’n cynnig disgowntiau defnyddiol i fyfyrwyr ar gyfer pob math o bethau gan gynnwys teithio, technoleg a bwyd. Mae cardiau Totum yn costio £14.99 am y flwyddyn, ond mae UniDays am ddim - does ond angen i chi lawrlwytho'r ap!
  2. Gwiriwch eich cyfriflen banc yn rheolaidd - Bydd hyn yn eich helpu i gadw golwg ar eich gwariant ac yn eich atal rhag mynd i orddrafft, os oes gennych chi un. Mae lawrlwytho ap bancio yn gwneud hyn yn gyflym ac yn hawdd. Hefyd, gall rhai banciau anfon rhybuddion atoch os yw lefel yr arian yn eich cyfrif yn cyrraedd pwynt penodol.
  3. Llunio cyllideb - Gall hyn ymddangos yn feichus, ond nid yw'n cymryd llawer o amser ac mae'n werth chweil yn y tymor hir. Y rhan anoddaf yw cadw ati!
  4. Gadewch eich cerdyn banc gartref pan fyddwch chi’n mynd am noson allan - Gallwch godi faint bynnag o arian parod y gallwch chi fforddio ei wario ar eich noson allan ymlaen llaw. Mae hyn yn sicrhau na fyddwch chi'n mynd yn wallgof gyda'ch taliadau digyswllt ar ôl i chi gael ychydig gormod i yfed, a hefyd mae’n sicrhau na fyddwch chi'n colli'ch cerdyn. 
  5. Siopa'n Gynaliadwy - Mae yna ychydig o siopau yn y dref sy'n cynnig cyfleusterau ail-lenwi di-wastraff. Felly gallwch brynu pob math o gynhyrchion o basta i siampw, faint bynnag rydych chi ei eisiau. Mae'r prisiau'n rhesymol iawn ac rydych chi'n cael gostyngiadau ychwanegol os ydych ch’n mynd â’ch cynwysyddion eich hun i'w llenwi. Felly nid yn unig y byddwch chi'n arbed arian ond byddwch hefyd yn lleihau eich defnydd o blastig ac felly'n helpu'r blaned! 
  6. Lawrlwythwch ap Olio - Mae Olio yn ap lle gall pobl rannu bwyd diangen neu eitemau eraill â phobl yn eu hardal, sy’n gallu eu casglu am ddim. Unwaith eto, dyma ffordd o arbed arian a gwastraff! 
  7. Os oes gennych chi filiau a / neu rent i'w talu bob mis, gwnewch yn siwr eich bod yn eu talu’n brydlon - Mae gwneud hyn ar ddechrau pob mis yn eich helpu i fynd i arfer, a hefyd yn eich galluogi i weld faint o arian sydd gennych chi ar ôl i’w wario am weddill y mis. Hefyd, bydd y mwyafrif o asiantau gosod eiddo / landlordiaid yn codi tâl ychwanegol arnoch os yw'ch rhent yn hwyr!
  8. Coginiwch gyda'ch cyd-letywyr - Nid yn unig y gall hyn fod yn hwyl ac yn ffordd wych o wneud ffrindiau, ond gallwch chi brynu cynhwysion ar y cyd - gan arbed amser ac arian. Mae coginio llwyth o fwyd ar y tro hefyd yn syniad da, oherwydd gallwch chi wedyn roi'r bwyd sydd dros ben yn yr oergell neu'r rhewgell i arbed gwastraff, a’i fwyta'n ddiweddarach pan nad ydych chi efallai'n teimlo fel coginio. 
  9. Oedwch cyn prynu'ch holl lyfrau cwrs - Mae'n demtasiwn prynu'ch holl lyfrau ar gyfer y semester fel eich bod chi'n gwybod bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch chi. Ond dylai'r llyfrgell fod â'r holl lyfrau ar restr ddarllen eich cwrs, a gallwch chi eu benthyg am ddim. Os oes angen i chi brynu rhai llyfrau, yna mae eu prynu'n ail-law yn rhatach o lawer. 
  10.  Cofiwch fwydydd ‘gwerth-am-arian’ wrth siopa - Efallai na fydd y pecynnu mor ddeniadol, ond mae archfarchnadoedd yn gwerthu cynhyrchion ‘gwerth-am-arian’ yn rhatach o lawer na gweddill y bwydydd sydd ar eu silffoedd, ac yn aml fyddwch chi ddim hyd yn oed yn sylwi ar y gwahaniaeth mewn ansawdd. 

Os ydych chi'n rhoi cynnig ar y rhan fwyaf o'r hintiau handi hyn, y gobaith yw y byddwch chi'n arbed punnoedd. Ond os ydych chi ar unrhyw adeg yn cael eich hun mewn ychydig o drafferthion ariannol - peidiwch â phoeni, does dim rhaid i chi geisio datrys y sefyllfa ar eich pen eich hun; mae help ar gael. Cysylltwch â naill ai Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor neu Wasanaeth Arian y Brifysgol yng Nghanolfan Groeso’r Myfyrwyr, neu ein Gwasanaeth Cynghori

Mwynhewch yr arbedion!  

Gan eich Swyddog Llesiant, Lydia :) 

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576