#UMAberynDathlu2020 Tîm Nad yw'n Rhan o BUCS y Flwyddyn - Pêl-law

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Cyflwynir y wobr 'Tîm Nad yw’n Rhan o BUCS y Flwyddyn' i'r tîm sydd wedi perfformio'n eithriadol yn eu cystadleuaeth; tîm sydd wedi cynrychioli’r Brifysgol yn eithriadol o dda ac wedi hybu enw da Prifysgol Aberystwyth. Mae'r wobr hon ar gyfer clwb nad yw'n cystadlu yng Nghynghrair Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).

 

Y Clwb Pêl-law yw enillwyr haeddiannol gwobr 'Tîm y Flwyddyn Nad yw'n Rhan o BUCS' eleni. Roeddent yn glwb newydd sbon ar ddechrau'r flwyddyn academaidd hon, ac roeddent yn dîm cystadleuol o'r cychwyn cyntaf. Aethant ati i gynnal twrnameintiau a dod o hyd i gyfleoedd cystadleuol eraill i ddangos y sgìl a'r cydlyniant yr oedd y tîm wedi'u datblygu mewn cyn lleied o amser. Amlinellodd eu henwebiadau’r arweinyddiaeth ragorol o fewn y clwb, eu perfformiad ardderchog o ystyried yr amser byr mae’r clwb wedi bodoli a'r ymdrechion a wnaed i sefydlu’r grwp myfyrwyr hwn sy'n tyfu'n gyson, i sicrhau ei gynaliadwyedd a'i ddatblygiad wrth symud ymlaen.

 

'Rydyn ni wedi ennill cystadleuaeth gyfan ym Mangor. Fe wnaethon ni chwarae yn erbyn 5 tîm arall, gan ennill pob un o'r gemau. Fe wnaethon ni hefyd chwarae gêm yn erbyn Caerefrog, ac ennill y gêm honno.' - Enwebydd anhysbys

 

Ar ben hynny, mae'r clwb wedi datblygu'n aruthrol o fewn blwyddyn, gan ddechrau fel clwb Merched yn unig, ac yna datblygu i fod â sgwad Dynion a Merched erbyn diwedd y flwyddyn academaidd. Maent yn dangos cryn lawer o egni ac maen nhw’n gefnogol iawn i ddatblygu chwaraewyr newydd, gan esblygu i fod yn dîm rhagorol gyda'i gilydd.  Dangosodd y pwyllgor lawer iawn o egni trwy gydol y flwyddyn, gan drefnu sesiynau ymarfer, paratoi eu haelodau ar gyfer amgylcheddau cystadleuol anghyfarwydd, a dod o hyd i gyfleoedd y gallai'r tîm gystadlu ynddynt. Mae'r clwb wedi dangos llawer o wytnwch ac wedi gwneud cryn ymdrech, nid yn unig wrth sefydlu clwb newydd, ond trwy fynd ati i gymryd rhan ac ennill cystadlaethau cenedlaethol o fewn blwyddyn! Cyflawniad anhygoel, yn enwedig o ystyried bod llawer o’r aelodau yn hollol newydd i'r gamp.

 

Mae'n bleser mawr gan y panelwyr gyflwyno'r wobr hon i glwb mor addawol, a ragorodd yn eu camp ar ôl dim ond ychydig fisoedd o fodolaeth. Dangosodd yr enwebiadau’r awyrgylch gwych y mae'r clwb wedi'i greu ar ac oddi ar y cwrt, yr agwedd groesawgar at bawb sydd â diddordeb mewn ymuno, a'u gallu i addasu a goresgyn y brwydrau sy’n wynebu clwb newydd.

 

Clwb cynhwysol iawn sy'n ceisio gwneud i bawb deimlo bod croeso iddyn nhw. - Enwebydd anhysbys

 

Llongyfarchiadau i'r Clwb Pêl-law, am eu gwaith a'u hymroddiad eithriadol. Eleni mae BUCS wedi ychwanegu twrnamaint Pêl-law ar wahân, ar gyfer tymor 20/21, lle gall Prifysgolion gystadlu yn erbyn ei gilydd ar lefel genedlaethol. Mae'r panel yn edrych ymlaen at weld datblygiad y clwb addawol hwn yn y gystadleuaeth honno, ac yn y blynyddoedd i ddod.

 

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576