#UMAberynDathlu2020: Gwobr Diwylliant Cymru - Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae'r hyn y cyfeiriwyd ati fel 'Gwobr y Gymraeg' o'r blaen wedi cael ei diweddaru ar gyfer Gwobrau’r Cymdeithasau eleni. Mae'r wobr newydd, sy’n dwyn y teitl 'Gwobr Diwylliant Cymru', yno i gydnabod y rhai sydd wedi integreiddio dwyieithrwydd o hyd, ond yn bwysicach mae bellach yn cydnabod y rhai sydd hefyd wedi bod yn ymroddedig i warchod diwylliant / treftadaeth ehangach Cymru. Mae'r diweddariad hwn wedi agor y wobr i ystod ehangach o gymdeithasau ac wedi galluogi cymdeithasau i gynnal ystod ehangach o weithgareddau. 

Ein henillwyr eleni yw Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth (GCA). Maent yn enghraifft ddisglair o sut mae'r wobr newydd, ehangach hon, wedi ymestyn apêl y wobr i ystod newydd o gymdeithasau. Mae GCA wedi gwneud argraff ar y panel gydol y flwyddyn; maen nhw wedi’n gweithio’n galed er mwyn gwarchod atyniadau lleol ac ardaloedd o ddiddordeb.

Dyma restr o rai o'r lleoedd lleol maen nhw wedi'u cynorthwyo yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf:

  • Llandre community path
  • Denmark farm
  • Hafod Estate
  • Hafod Walled Garden Group
  • Butterfly house
  • Penparcau Scout group
  • Cambrian Wildwood project
  • Parc-Y-Llyn Nature reserve
  • Pen Dinas
  • Penparcau community forum   
  • Ynys-hir RSPB
  • Cors Caron NNR (NRW)
  • Broniwan farm
  • Stanner rocks NNR (NRW)
  • Cardigan Bay Marine Wildlife Centre (WT)
  • Ceredigion County Council
  • Parc Natur Penglais
  • Penglais community gardens
  • Greener Aberystwyth Group

Fel y gwelwch uchod, maent wedi gweithio ar lawer o eiddo lleol ac mewn ardaloedd lleol sy'n cynrychioli diwylliant Cymru yn benodol. Mae cryn dipyn o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni hefyd wedi cynorthwyo pobl i gael mynediad i'r ardal leol a'i defnyddio i'w llawn botensial. Ochr yn ochr â hyn maent hefyd wedi mynd ati i gael gwared ar rywogaethau nad ydynt yn frodorol i’r wlad hon er mwyn rhoi cyfle teg i rywogaethau brodorol. Mae amrywiaeth y tasgau y maent wedi'u cyflawni yn y gwahanol leoliadau hyn wedi bod yn rhagorol. Drwy'r gweithgareddau hyn maent wedi gwarchod diwylliant Cymru yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol mewn sawl ffordd.

Yn ychwanegol at yr hyn a ddywedwyd o'r blaen, un o'u cyflawniadau mwyaf rhagorol o bell ffordd oedd chwarae rhan allweddol mewn sicrhau cyllid gwerth dros £3,000 ar gyfer prosiect Perllan Treftadaeth Cymru. Fodd bynnag, doedd hynny ddim yn ddigon iddyn nhw; aethant ati i gymryd rhan mewn prosiect gan helpu i blannu 250 o goed ar Gampws Gogerddan. 

Mae'n amlwg gweld bod GCA wedi bod yn brysur; maen nhw wedi cyflawni cryn lawer yn ystod y flwyddyn! Ni fyddai’r holl bethau maent wedi’i gyflawni wedi bod yn bosibl heb ymroddiad aelodau’r pwyllgor a’r diddordeb a ddangoswyd gan holl aelodau’r grwp. Mae'r UM yn edrych ymlaen at weld beth fydd Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aber yn ei wneud y flwyddyn nesaf, a gobeithiwn eich bod chi hefyd!

Beth am gymryd rhan eich hun? Gallwch ganfod mwy am gymdeithas Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aber yma:
E-bost: scty22@aber.ac.uk
Gwefan: https://www.umaber.co.uk/organisation/6171/
Facebook: Aberystwyth Conservation Volunteers
Insagram: @aberystwythconservation

Comments

 

Fforwm

Mer 17 Ebr 2024

Forum

Mer 17 Ebr 2024

BUCS End of Year Article

Mer 17 Ebr 2024
 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576