Dathlu llwyddiant a chyraeddiadau ein myfyrwyr a'n cymdeithasau yma ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae Y Cyfraniad Mwyaf (RAG) yn cael ei dyfarnu i glwb mae ei aelodau wedi rhoi cryn dipyn o’u hamser yn rhydd dros achos da trwy gydol y flwyddyn, neu glwb sydd wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at RAG ar hyd y flwyddyn.
Enillwyr eleni oedd Hoci’r Menywod.
Mae ymroddiad a chefnogaeth y clwb hwn dros elusennau lleol a chenedlaethol wedi bod yn hynod weladwy dros y flwyddyn academaidd diwethaf. Maent wedi codi arian ar gyfer, wedi dathlu ac wedi cefnogi sawl achos, gan helpu llawer o sefydliadau o gwmpas Cymru a’r DU.
Yn gyntaf, codon nhw dros £400 ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Trussell. Mae’r Ymddiriedolaeth Trussell yn cefnogi rhwydwaith cenedlaethol o fanciau bwyd ac yn ogystal â darparu bwyd a chefnogaeth frys i bobl sy’n sownd mewn tlodi, ac yn ymgyrchu dros y newid i roi diwedd ar yr angen i gael banciau bwyd yn y DU. Maent hefyd wedi archebu eitemau anghrediniol i Fanc Bwyd Eglwys Sant Ann dros y rhai sy’n fregus yn ystod y pandemig Cofid-19.
Maent hefyd wedi codi dros £100 ar gyfer Poundies Gorllewin Cymru, sefydliad sy’n ymroddedig dros achub bywydau cwn mewn ffaldau’r cyngor.
Yn ystod y llynedd, maent hefyd wedi partneru â Mind Aberystwyth, gan ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth iechyd meddwl i’w haelodau, a hefyd wedi dathlu ac wedi codi ymwybyddiaeth yn ystod y mis Balchder i gefnogi’r gymuned fyfyrwyr LHDTQ+ a’r tu hwnt gan rannu straeon a phrofiadau unigol.
Ar y cyfan, mae ymroddiad y grwp i gymryd rhan gyda chymaint o elusennau mewn angen dros y llynedd wedi bod yn ysbrydoledig, ac rydym ni yn yr UM wir yn falch dros y gwaith maent wedi’i wneud i helpu.
Beth am i chi gymryd rhan? Cewch fwy am Hoci’r Menywod yma: