#UMABERYNDATHLU2021: PARODRWYDD I ADDASU A GWYDNWCH – SHOWDANCE

Dathlu llwyddiant a chyraeddiadau ein myfyrwyr a'n cymdeithasau yma ym Mhrifysgol Aberystwyth

TimAberwelshYn Dathlu
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Crewyd y Wobr am Barodrwydd i Addasu a Gwydnwch eleni fel gwobr ar ei phen ei hun. Mae yno i ddathlu y parodrwydd i addasu a gwydnwch a ddangoswyd gan ein grwpiau yn ganlyniad o amgylchiadau newidiol. Oedd hyn yn cynnwys dod o hyd i ffyrdd gwreiddiol a chreadigol o wneud gweithgareddau, defnyddio technolegau newydd, ac addasu i ffyrdd amgen o ymgysylltu â’u haelodau. Yn hollbwysig, oedd yno hefyd i gydnabod grwpiau a oedd yn benderfynol i gefnogi eu haelodau yn ystod y flwyddyn, gan drechu anawsterau ar hyd y ffordd. Ar y cyfan, oedd y panel wir yn chwilio am grwpiau sydd wedi cadw at weithredu dros eu diben craidd yn y gweithgareddau eu bod nhw’n darparu.

Clwb buddugol y wobr hon yw Showdance, sef Cymdeithas Ddawnsio Sioe Gerdd.

Fel ein holl grwpiau perfformio, maent wedi’u heffeithio’n sylweddol gan y cyfyngiadau a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae pob grwp perfformio wedi’u cyfyngu gan y cyfyngiadau a osodwyd ar weithgareddau dan do. Hyd yn oed pan oedd gweithgareddau dan do yn gallu mynd ymlaen, oedd y cyfyngiadau ar y niferoedd ac ymbellhau cymdeithasol yn golygu roedd eu hymarferion a’u perfformiadau yn dal i fod bron yn ddigon amhosibl i’w gwneud wyneb-yn-wyneb.

Serch hynny, roedd y pwyllgor yn greadigol a gwydn, gan lwyddo i addasu ar hyd y ffordd, a mynd yn uwch na’r disgwyl i sicrhau bod pob aelod yn cael profiad difyr serch yr amgylchiadau. Yn ystod y cyfnod clo, trefnodd y pwyllgor hyd at 10 gwers ddawnsio a sesiynau coreograffi ar-lein bob wythnos, a roddodd i bawb (waeth eu lleoliad) y cyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb. Cafodd eu Tapathon blynyddol ei ddawnslunio’n llwyr trwy ddulliau rhithiol a’i berfformio i safon arbennig ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi. Cynhaliwyd digwyddiadau cymdeithasol deniadol a hwylus ar-lein a lle bo modd yn yr awyr agored wyneb-yn-wyneb. Trefnodd y clwb hefyd cystadleuaeth Farisiti-aidd ar-lein yn erbyn eu gelynion oes, Bangor, er mwyn ymgysylltu mhellach â’u haelodau.

Trwy eu henwebiadau, roedd yn amlwg i’w weld faint y gwerthfawrogodd eu haelodau bopeth mae’r grwp wedi gwneud drostynt yn ystod y llynedd. Dyma rai enghreifftiau o’r enwebiadau:

“Cymerodd y clwb ran mewn amryw ddigwyddiad sy’n cynnwys Tapathon, Plan mewn Angen, Gwyl y Celfyddydau a Chodi Arian i’r Hen Goleg. Wynebom ni gymaint o heriau wrth gymryd rhan yn y digwyddiadau hyn o archebu lleoliadau addas, diogelu byrddau tap, a gwneud yn siwr ein bod ni bob tro yn dilyn y canllawiau ar waith.”

- Enwebedig dienw

“Mae’r digwyddiadau cymdeithasol wythnosol yn enghraifft arall o sut mae’r gymdeithas wedi bod yn wydn ac wedi gweithio i ddefnyddio’r dechnoleg mewn gwahanol ffyrdd – trwy Teams rydym wedi gallu cymryd rhan mewn cwisiau, cael nosweithiau ffilm a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl a hynny i gyd wrth i ni gadw’n ddiogel yn ein hystafelloedd ni ac mae creadigrwydd a phenderfyniad yr ysgrifenyddion cymdeithasol wedi bod yn anhygoel!”

- Enwebedig dienw

“Mae Showdance wedi mynd yn uwch ac ymhellach na’r disgwyl i gadw’r un maint a safon o sesiynau clwb serch y cyfyngiadau cofid. Gyda rhedeg hyd at 10 gwers ddawnsio yr wythnos ynghyd â digwyddiad cymdeithasol a oedd hollol ar-lein i bob wythnos ddysgu y flwyddyn, rydym wedi cadw at ddawnsio trwy’r amser. Mae’r gwersi wedi bod o safon uchel ac rydym ni wedi dysgu sawl dawns ar-lein yn gyfan gwbl”.

- Enwebedig dienw

Mae pawb yn yr UM yn edrych ymlaen at beth fydd Showdance yn ei wneud yn ystod y flwyddyn academaidd sy’n dod!

Beth am i chi gymryd rhan? Cewch fwy am Showdance yma:

 

   

 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576