Dathlu llwyddiant a chyraeddiadau ein myfyrwyr a'n cymdeithasau yma ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae enillydd Gwobr y Gymraeg wedi mynd ymhellach na ffiniau’r Polisi Dwyieithrwydd ac wedi hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymreig yn weithredol oddi fewn eu grwp myfyrwyr.
Mae pêl-rwyd unwaith eto, wedi ennill y wobr hon yn y flwyddyn academaidd hon.
Mae’r clwb hwn a’i aelodau wedi ymrwymo i ddathlu’r iaith Gymraeg ar hyd y flwyddyn.
Maent wedi cynnwys print dwyieithog ar eu holl ddillad clwb swyddogol, eu holl ohebiaeth, gan gynnwys ar eu cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r clwb yn dal i gynnal y polisi dwyieithrwydd yn eu holl ddigwyddiadau.
Mae’r clwb Pêl-rwyd hefyd yn cynnwys Swyddog y Gymraeg/Swyddog Cyfieithu ar eu pwyllgor i helpu i gynyddu eu cysylltiad gyda’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig.
“Mae’n glir bod CPPA yn ymfalchïo’n fawr iawn mewn bod yn gymdeithas ddwyieithog achos mae pob statws ac hysbyseb yn y ddwy iaith a fydd yn addas i bawb!”
- Enwebedig dienw
“Mae CPPA yn haeddu Gwobr y Gymraeg oherwydd maent yn cydnabod y pwysigrwydd o fod yn glwb dwyieithog. Maent wedi gwneud pob dim i wneud eu holl statws yn gynhwysol, gan fynegi eu pwynt yn y ddwy iaith.”
- Enwebedig dienw
Ar y cyfan, ni fyddai llwyddiant y clwb mewn ennill y wobr hon wedi digwydd heb ymrwymiad pob aelod y pwyllgor dros ymroddi eu hunain i wella dwyieithrwydd o fewn, nid yn unig yn clwb, ond o fewn pêl-rwyd ei hun. Rydym ni yma yn yr UM yn falch iawn dros eu brwdfrydedd tuag at yr iaith ac yn gobeithio y byddant yn cadw at eu gwaith anhygoel!
Beth am i chi gymryd rhan? Cewch fwy am Bêl-rwyd yma: