Sbotolau ar Trish McGrath - Prif Weithredwr

cyflwynoteuluumwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

DEWCH I GWRDD Â THÎM YR UM

Dros yr Haf, mae'n bryd i ni fel Undeb Myfyrwyr edrych yn ôl ar y flwyddyn sydd newydd fod, paratoi i groesawu myfyrwyr newydd a chyfredol i Aber ym mis Medi a rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer 2020-2021.

Mae misoedd yr haf hefyd yn amser i groesawu a hyfforddi timau swyddogion newydd yn barod ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn cynorthwyo'r tîm swyddogion mae teulu o staff UM sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael cyfle i garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth.

Rydym yn bwriadu manteisio ar y cyfle dros yr ychydig fisoedd nesaf i gyflwyno teulu UMAber - sydd i gyd yma i chi os ydych chi angen cymorth, cyngor neu sgwrs.


Sbotolau ar Trish McGrath - Prif Weithredwr

Ble mae dy gartref?

Wel, yn dechnegol rydw i'n blentyn y fyddin ac wedi byw ar draws y lle ers fy ngeni, ond mae’r rhan fwyaf o fy nheulu yng Ngorllewin Swydd Efrog, felly merch o Swydd Efrog ydw i yn y bôn!

 

Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?

Pizza gyda diferyn o olew tsili, gyda halloumi wedi’i ffrio a saws tsili melys, baconnaise a mayo garlleg

 

Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?

Dwi wrth fy modd yn gwrando ar lwyth o wahanol fathau o gerddoriaeth a chwarae fy ngherddoriaeth fy hun, ond merch metel trwm yw i yn y bôn. Rwyf hefyd yn mwynhau tipyn o grefftio a chrosio, yn ogystal â phwytho pethau anghyffredin. Rydw i hefyd yn Fam sengl, felly rydw i'n treulio cymaint o amser ag y gallaf gyda fy mab Ralph, sy’n 7 oed.

 

Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth?

Mae cymaint o bethau - mae’n mynd i fod yn anodd rhestru ychydig ohonyn nhw, ond yn bennaf rydym yn cael gweithio gyda myfyrwyr positif a hwyliog, pob un ohonynt â’u hangerdd a’u blaenoriaethau eu hunain; maen nhw’n ein cadw ni ar flaenau ein traed, ond mewn ffordd hyfryd! Rydym hefyd yn cael byw a gweithio yn un o'r mannau prydferthaf yn y DU - nid oes llawer o leoedd eraill lle gallaf orffen gwaith, casglu fy mab o'r ysgol a bod yn y môr yn nofio, gyda dolffiniaid yn y pellter, a hynny o fewn 30 munud!

 

Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?

Hoffwn naill ai fod yn rhedeg elusen o faint canolig sy’n cynorthwyo gweithgareddau er mwyn creu effaith gadarnhaol i bobl, neu mewn ffordd hollol wahanol byddwn i wrth fy modd bod yn Fydwraig!

 

Pa ran / rhannau o dy swydd wyt ti’n eu mwynhau fwyaf?

Rwyf yn mwynhau’r rhannau lle rwy'n cael gweithio gyda myfyrwyr fwyaf neu lle gallwn ni deimlo fwyaf balch ohonyn nhw, felly digwyddiadau fel Rhyngolgampau Farsiti ac Aber 7s neu gyfarch a chroesawu myfyrwyr newydd yn ystod cyfnod y Glas yw fy hoff adegau o’r flwyddyn.

 

Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?

Doeddwn i ddim wedi ymwneud yn flaenorol ag Aber cyn dechrau yn fy rôl yma 4 blynedd yn ôl, ond rwyf wedi cyfranogi yng ngweithgareddau Undebau Myfyrwyr ers pan oeddwn yn 18 oed pan ddechreuais y Brifysgol yn Lancaster. Dechreuais mewn rolau Swyddog gwirfoddol cyn cael fy ethol yn Swyddog Addysg a Lles yn yr UM, ac yna fel Llywydd yr UM. Yna, ar ôl cymryd blwyddyn neu ddwy allan, roeddwn yn ôl yn aelod staff fel Cynghorydd yn Cumbria, lle deuthum yn Rheolwr Gwybodaeth ac Eiriolaeth yn y pen draw, ac wedyn roeddwn yn UM Prifysgol Manceinion fel Pennaeth Llais Myfyrwyr.

 

Mae UMAber… yn datblygu a thyfu ac eisiau i gynifer o fyfyrwyr ymgysylltu â phosibl

Nid yw UMAber… yn adeilad - mae'n gymaint mwy na hynny! Mae'n llais sy’n cynrychioli myfyrwyr, mae’n cynnig cymorth i glybiau myfyrwyr, cymdeithasau, cynrychiolaeth, cyngor a gweithgareddau gwirfoddoli!

 

Nid yw'r haf yn 'amser tawel' i Undebau Myfyrwyr... beth wyt ti’n mynd i fod yn brysur yn gweithio arno dros yr Haf?

Yn yr haf rydym yn hyfforddi'r swyddogion llawn-amser newydd ac yn eu sefydlu yn y mudiad a'u rolau hyd eithaf ein gallu. Rwyf hefyd yn edrych yn ôl ar sut mae'r flwyddyn wedi mynd ac rydym yn cynllunio ac yn paratoi popeth ar gyfer y flwyddyn i ddod, oherwydd unwaith y bydd Tymor 1 yn cyrraedd, nid oes amser i anadlu tan y Nadolig.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576