Mae ein trydedd erthygl o'r wythnos am Daniel Colhart. Daniel yw'r ail fyfyriwr i ennill ein Gwobr Aur Aber ers mis Medi yn sgil cofnodi dros 120 awr o wirfoddoli! Cewch wybod mwy ynglyn â sut y cyflawnodd e hynny.
Pa rolau Gwirfoddoli sydd gen ti?
Sylwedydd/Swyddog Cyllid ar gyfer LINKS Urdd Sant Ioan Aberystwyth
Cwnstabl Gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed-Powys
Pam wyt ti’n gwirfoddoli?
Y prif reswm dwi'n gwirfoddoli yw’r ffaith ei fod yn gyfle i ddarparu cymorth i'r gymuned. Mae Ambiwlans Sant Ioan yn rhagweithiol iawn wrth ddarparu cefnogaeth i ddigwyddiadau'r Brifysgol a'r gymuned, ac o ganlyniad mae hyn yn fy ngalluogi i fynd allan i'r gymuned a chael effaith ar y rheiny sydd mewn angen. Mae'r sgiliau rwy'n eu dysgu o'r rôl hon yn hynod o werthfawr ac yn hollbwysig i mi gan fy mod yn medru mynd â’r sgiliau hynny gyda mi i'r gweithle ac i'm rôl fel Cwnstabl Gwirfoddol.
Rwy'n gwneud dyletswydd fel Cwnstabl Gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed-Powys yn bennaf oherwydd fy mod i eisiau gwneud gwahaniaeth i'r gymuned ac rwy'n mwynhau'r gwaith amrywiol yr ydym yn cymryd rhan ynddo. Gall hyn amrywio o fynd ar batrôl drwy ganol y dref, ddiogelu aelodau bregus o'r cyhoedd, delio â throseddau a gweithio ochr yn ochr ag adrannau eraill o fewn yr Heddlu, megis CID, yr Uned Troseddau Digidol a'r Adran Gwn.
Beth yw’r profiad gorau wyt ti wedi’i gael fel gwirfoddolwr?
Yn ddiweddar, fe helpais i ddyn oedd yn anymwybodol ar ochr y ffordd. Siaradais ag ef ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, a darganfod ei fod yn dechrau gwella ar ôl i mi lwyddo ei dywys i’r ysbyty.
Sut wyt ti wedi elwa fel gwirfoddolwr?
O fewn LINKS, rwyf wedi dysgu amrywiaeth eang o sgiliau Cymorth Cyntaf a gwybodaeth am reoli cleifion. Mae'r rhain wedi fy helpu yn fy mywyd bob dydd ac maent wedi fy ngalluogi i fod â’r hyder i ddelio ag unrhyw sefyllfa yr wyf yn ei hwynebu.
Mae bod yn Gwnstabl Gwirfoddol wedi fy ngalluogi i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned yn uniongyrchol. Mae wastad yn gwneud i chi deimlo'n dda pan fyddwch chi'n gallu gweld yr effaith rydych wedi'i chael ar y bobl rydych chi’n delio â nhw.
Os ydych chi am wybod mwy am wirfoddoli fel cwnstabl gwirfoddol ewch i https://www.dyfed-powys.police.uk/en/join-us/