Syniadau Codi Arian ar gyfer Covid-19 UMAber

bannerwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Fel rhan o'n menter Codi Arian RAG ar gyfer Covid-19 gofynnwyd i Glybiau a Chymdeithasau am eu syniadau ar sut y gall unigolion a grwpiau chwarae eu rhan mewn helpu i gyrraedd ein targed ar gyfer codi arian.

Isod mae rhai o'r enghreifftiau maen nhw wedi'u hawgrymu.

Rhedeg 5, Cyfrannu 5 ac Enwebu 5 - Mae'r duedd hon i’w gweld ar gyfryngau cymdeithasol ledled y byd bellach, lle mae unigolion yn rhedeg 5km, yn rhoi £5 at achos perthnasol ac yn enwebu 5 arall. Er bod hyn eisoes wedi cael llawer o sylw ar-lein, mae'n ffordd syml a llawn hwyl o ymgysylltu ag eraill ar adeg pan mae llawer yn manteisio ar gyfleoedd i wneud ymarfer corff. Fe allech chi hyd yn oed amrywio'r pellter, y swm a'r rhai sy’n cael eu henwebu i osod eich marc eich hun ar y fenter.

Grid Rhifau - Mae grid rhifau yn gwneud dewis amgen da i gynnal raffl, a does fawr o angen chwilio am roddion ar gyfer gwobrau; hefyd dim ond un gwirfoddolwr sydd ei angen i'w redeg. Dewiswch gyfanswm i'w roi fel gwobrau, fel arfer dim mwy na 25-50%, a nifer yr enillwyr, fel arfer 1-3. Defnyddiwch ddyfais creu rhifau ar hap i ddewis y rhifau buddugol.

Lawrlwythwch ein templed ar gyfer grid rhifau isod.

Grid Rhifau UMAber

Her Canfod y Bêl - Mae angen ychydig bach o help gan rywun sydd â phrofiad o photoshop i’w wneud eich hun, ond mae'n wych ar gyfer clybiau chwaraeon (ac mae gennym ni ychydig o enghreifftiau isod i'ch helpu chi allan). Dechreuwch gyda delwedd o weithgaredd gyda phêl (neu eitem) nad yw mor amlwg, h.y. rhywbeth y gellir ei dynnu allan o’r llun yn hawdd fel pe na bai yn y ddelwedd yn photoshop. Nesaf, gosodwch grid wedi'i rifo dros y ddelwedd yn y fath fodd fel bod y bêl neu'r eitem yn ganolog i sgwâr penodol, ac arbedwch hwn fel eich ateb. Yn olaf, crëwch fersiwn gyda'r bêl (neu'r eitem) wedi'i thynnu allan fel bod yn rhaid i'r cyfranogwyr ddyfalu ble mae'r bêl neu'r eitem. Unwaith eto, fel grid wedi'i rifo, gallwch ddewis swm penodol i'w roi fel gwobrau, er mai dim ond un enillydd all fod.

Lawrlwythwch ein heriau enghreifftiol isod (byddwn yn diweddaru'r atebion ymhen wythnos neu ddwy).

Her Canfod y Bêl 1 - Gwreiddiol / Ateb

Her Canfod y Bêl 2 - Gwreiddiol / Ateb

Her Canfod y Bêl 3 - Gwreiddiol / Ateb

Her Canfod y Bêl 4 - Gwreiddiol / Ateb

Cwis / Sioe Gemau / Bingo Rhithwir - Mae gweithgareddau fel cwisiau, sioe gemau neu bingo rhithwir wedi dod yn gyffredin yn ystod yr wythnosau diwethaf; gall y rhain fod yn ffordd wych o ddod â phobl ynghyd a chodi arian at achosion da. Ystyriwch osod thema ar gyfer eich digwyddiad, a chofiwch ei amseru, oherwydd yn aml maent yn llawer byrrach na'r hyn y byddech chi'n ei ddisgwyl o'ch fersiwn draddodiadol ar gyfer y dafarn. Mae'r rhyngrwyd yn adnodd gwych i'ch cynorthwyo, o daflenni cwis i alwyr bingo rhithwir a chardiau, mae yna lawer o bethau ar gael i wneud i'ch digwyddiad sefyll allan o'r dorf.

Noson Gymdeithasol Rithwir - Mae nosweithiau cymdeithasol a mynd am ddiod ar-lein hefyd wedi dod yn gyffredin yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rydym yn ymwybodol o nifer o grwpiau sydd eisoes yn trefnu'r rhain, gyda rhai yn ystyried trefnu gwobrau diwedd blwyddyn ar-lein. Mae gwahodd cyfranogwyr i wneud cyfraniad bach yn lle prynu diod yn ffordd wych o gasglu arian.

Cyfrannwch beth bynnag nad ydych chi'n gwario arian arno - Boed y rownd ychwanegol o ddiodydd wrth y bar, coffi mewn caffi yn y bore, petrol i deithio neu gael torri eich gwallt ... mae llawer ohonom yn gwario llai nawr bod rhaid i ni aros gartref. Mae rhoi’r arian hwn tuag at achosion da yn ffordd gadarnhaol o gyfrannu heb, gobeithio, roi gormod o straen ar eich cyllid.

Heriau Ar-lein (neu Heriau Ynysu) - Mae nifer o unigolion a grwpiau wedi ceisio creu eu ffyrdd eu hunain o herio eraill o fewn eu grwpiau cyfeillgarwch. Un enghraifft o hyn yw ein her ymarfer corff A-Z ein hunain, y gallwch chi ddod o hyd iddi ar ein tudalen Facebook; heriwyd swyddogion a myfyrwyr i wneud gwahanol fathau o ymarfer corff, gan sillafu teitl eu rôl neu enw eu grwp. Os ydych chi’n chwilio ar-lein, gallwch ddod o hyd i amryw o enghreifftiau eraill, o dyfu barf i heriau gwisg ffansi. Yr hyn sy’n allweddol gyda'r rhain yw annog / enwebu eraill i gymryd rhan; os ydych chi'n ei wneud fel rhan o grwp, beth am herio grwp arall (neu hyd yn oed eich Swyddogion UM!).

Rydym wedi lansio menter Codi Arian RAG yn benodol i gynorthwyo achosion lleol yn ystod pandemig Covid-19.

Rydym wedi gosod targed codi arian cychwynnol o £1,000 drwy dudalen cyllido torfol i gefnogi tri achos lleol a awgrymwyd gan fyfyrwyr, gan gynnwys staff y GIG yn Ysbyty Bronglais, Banc Bwyd Aberystwyth (Stordy Jubilee) a menter New Pathways.

Am fwy o wybodaeth neu i gymryd rhan edrychwch ar yr erthygl yma.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576