Sut i Wneud i'ch Llety Myfyrwyr Deimlo Fel Cartref

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Sut i wneud i'ch llety myfyrwyr deimlo fel cartref

Gall byw oddi cartref am y tro cyntaf fod yn brofiad cyffrous, ond gall hefyd fod yn frawychus. Gall bod â’ch lle eich hun sy'n teimlo fel cartref eich helpu i ymlacio a setlo i fywyd myfyriwr. Yma, mae Laura Dickerson (Rheolwr Gosod Eiddo i Fyfyrwyr Pobl) yn rhannu ei hintiau handi ar gyfer gwneud y gorau o'ch ystafell-wely newydd heb or-wario. 

Goleuo

Gall y goleuadau cywir drawsnewid naws eich ystafell, ac nid oes rhaid i hynny gostio llawer. Gosodwch eich goleuadau o amgylch eich ystafell; efallai un ar eich desg ac un ar fwrdd bach ger y gwely, a byddwch yn gweld bod hyn yn helpu i drawsnewid y lle. Defnyddiwch olau darllen pan fyddwch chi’n ymlacio ar eich gwely: does dim rhaid i chi astudio wrth eich desg bob amser. Gall gosod goleuadau bach sy’n rhedeg ar fatri ar hyd eich silffoedd wneud gwahaniaeth go iawn wedi iddi nosi. 

Desg 

Eich desg yw lle mae'r hud yn digwydd: er mwyn sicrhau amser astudio cynhyrchiol, gwnewch yn siwr eich bod chi'n prynu teclyn i gadw’ch desg yn daclus. Nid yw’r rhain ond y costio ychydig £oedd, a gallwch storio'ch holl offer ysgrifennu yn daclus ynddyn nhw. Trefnwch y droriau yn eich desg fel y gallwch chi gael gafael ar bopeth sydd ei angen arnoch yn hawdd, ac yn olaf gosodwch y gadair wrth eich desg ar yr uchder cywir i weddu i'ch cefn, fel na fyddwch yn mynd yn anghyfforddus.  

Clustogau a charthenni

Mae llwyth o glustogau a charthenni fforddiadwy ar gael, a fydd yn personoli'ch ystafell ar unwaith. Gallwch ddod o hyd i fargeinion sy'n gweddu i'ch steil mewn lleoedd fel Dunelm Mill, Asda neu IKEA. Os nad ydych chi'n siwr pa liwiau i fynd amdanyn nhw, cymerwch ysbrydoliaeth o bethau eraill sydd eisoes yn eich ystafell: clustog efallai i gyd-fynd â darn o waith celf, neu garthen sy'n edrych yn dda gyda’ch dillad gwely? Mae ystafell drefnus yn cyfateb i feddwl trefnus, felly newidiwch eich ystafell i weddu i'ch personoliaeth a mwynhewch dreulio amser ynddi.  

Dillad gwely

Cael noson dda o gwsg yw un o'r ffyrdd pwysicaf o sicrhau bod eich meddwl yn gweithio ar ei orau. Rydym yn cyflenwi gwelyau 4 troedfedd o led yn ein llety i wneud eich cwsg gymaint yn well, felly beth am fuddsoddi mewn gobenyddion cysurus a duvet clyd i sicrhau’r cwsg gorau posib? Gall blanced drom eich helpu i fynd i gysgu hefyd. Mae Primark, Home Bargains a B&M Bargains yn siopau gwych ar gyfer prynu eitemau o safon am brisiau rhesymol. 

Ewch yn wyrdd

Gall planhigion greu teimlad o awyr iach a ffresni mewn unrhyw ystafell, a gellir eu prynu'n rhad o archfarchnadoedd neu siopau garddio lleol. Cymerwch gipolwg ar sut mae rhai o'n myfyrwyr yn Clarendon wedi gwella eu hystafelloedd trwy ddefnyddio gwyrddni: 

@girlwhaircut

@lolly_tries_art

Ategolion 

Beth am ychwanegu ambell gannwyll wedi'i phweru â batri i newid naws y lle? Neu efallai ambell lun o gartref / ffrindiau i bersonoli'ch silffoedd? Eich gofod chi yw eich ystafell, felly gwnewch y gorai ohoni. Gall mat bach wrth y fynedfa wneud i’r lle deimlo'n gartrefol iawn; gellir prynu'r rhain am gyn lleied â £5, a gallant wneud gwahaniaeth enfawr. Ychwanegwch gynllunydd misol i'r hysbysfwrdd yn eich ystafell i’ch helpu i drefnu digwyddiadau cymdeithasol a rhai’r Brifysgol; bydd hyn yn eich cadw ar y trywydd iawn ac yn sicrhau na fyddwch chi byth yn anghofio'r pethau difyr!

Annibendod

Ceisiwch osgoi annibendod rhag ymgasglu yn eich ystafell. Mae angen lle arnoch i ymlacio, yn ogystal ag astudio’n galed. Buddsoddwch mewn blychau storio (neu hyd yn oed cael gafael ar flychau cardbord am ddim o archfarchnad!) i bacio eitemau a'u storio'n daclus o dan eich gwely. Gall treulio ychydig o amser yn cadw pethau'n dwt a thaclus gael effaith enfawr ar eich hwyliau a'ch cynhyrchiant. 

 

Noddir yr erthygl hon gan Pobl Student Living. Rydym yn sefydliad nid-er-elw sy'n cynnig llety fforddiadwy ar lan y môr yn Aberystwyth, gyda biliau cynhwysol, gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a golygfeydd gwych o'r môr. Gallwch ganfod mwy yn www.poblgroup.co.uk/aber neu dilynwch ni ar Instagram @poblstudentliving 

Mae erthyglau fel y rhain yn helpu i ariannu undeb y myfyrwyr i allu cynnal gweithgareddau a gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr Aber.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576