Spotolau ar Simran Didden

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Beth ydych chi’n ei wneud eich rôl?

Fy nod yw creu gofod saffach fel bod fy nghyd-fyfyrwyr yn gallu dod ataf a rhannu eu pryderon, gallaf i wedyn fynd â’r adborth hwn i’r fforymau priodol i’w ddatrys.

 

Beth ydych chi’n ei astudio?

Dwi’n dilyn Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes mewn Rheoli Prosiectau.

 

Pa beth ydych chi’r mwyaf balch ohono hyd yma?

Cyn i fi symud i Aber i astudio’n bellach, gweithiais gyda BT India am 9 mlynedd. Yn fy rôl olaf gyda BT, ces i’r cyfle i weithio ar ddwy o’r rhaglenni mwyaf. Roedd yn gyfle arbennig iawn i fi oherwydd i fi gael gweld sut cafodd fy nghyfraniadau effaith wirioneddol ar y rhaglenni a dyfodol BT.

 

Oes unrhyw fentoriaid benywaidd sy’n eich ysgogi i barhau i ddysgu a chynrychioli myfyrwyr?

Fy mam sy’n fy ysbrydoli’r mwyaf pan ddaw ati i addysg. Nid yn unig gwnaeth hi sicrhau fy mod i’n cael yr addysg gorau posib yn ôl yn India, ond mae hi hefyd yn dysgu plant y gymdogaeth sydd angen help ychwanegol ond nad yw eu rhieni yn gallu fforddio tiwtoriaid.

 

Heblaw am fod yn gynrychiolydd, beth ydych chi’n mwynhau ei wneud?

Dwi’n mwynhau gwylio cyfresi comedi ar Netflix. Ar hyn o bryd, dwi’n gwylio ‘Seinfeld’ am y miliynfed tro!

 

Oes gennych chi unrhyw gyngor i fenywod sy’n dechrau Astudiaethau mewn Rheoli Prosiectau?

O ran fy mhrofiad proffesiynol, buaswn i’n awgrymu i fenywod ddefnyddio eu hamser yn y Brifysgol i ennill sgiliau newydd a dod i nabod myfyrwyr o wledydd a diwylliannau eraill, oherwydd fod yr elfennau yn eithaf gwerthfawr mewn gweithle. Hefyd fel cynrychiolydd, mae’n bwysig iawn ein bod yn gallu defnyddio’r fforymau sydd ar gael  i ni i godi pwyntiau sy’n cael effaith ar ein cyd-fyfyrwyr. Mae gofyn y cwestiynau iawn yn gallu helpu i bobl agor, a dyma pan mae newid go iawn yn digwydd.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576