SBOTOLAU AR JESSICA EADES

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae Jessica yn ymuno â thîm staff Cyfathrebu ac Ymgysylltu’r UM fel  Cydlynydd Gwerthiant Cyfryngau a Digwyddiadau. Mae ei rôl yn cynnwys darparu cyfleoedd perthnasol a gwerthfawr i fyfyrwyr ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan greu incwm a meithrin perthnasoedd cadarnhaol ar gyfer UMAber a mwy.

Enw: Jessica Eades

Rôl: Cydlynydd Cyfryngau a Digwyddiadau

Ble mae eich Cartref?: Aberystwyth

Dwedwch wrthym dipyn amdanoch:

Yn 2019, graddiais i o Brifysgol John Moore Lerpwl gyda BA mewn Rheoli Digwyddiadau. Ar ôl hyn, es i ymlaen i astudio MSc mewn Busnes Rhyngwladol a Marchnata ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rwy’n angerddol iawn dros drefnu digwyddiadau, ac rwy’n awyddus iawn am leihau effeithiau ar yr amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy pryd bynnag y gallaf.

Eich pryd olaf ar y ddaear...beth sydd ar y fwydlen?:

Byrgyr Brewdog, sglodion tatws melys a pheint.

Y tu allan i’r gwaith, beth yw eich hoff ddiddordebau?:

Rwy wrth fy modd yn chwilio am lefydd unigryw i aros drwy AirBnB (rhywbeth rwy’n ei wneud yn aml). Rwy’n mwynhau mynd am dro ar lân y môr ac ymweld â thraethau gwahanol. Rwy’n cefnogi tîm rygbi Cymru, mwynhau ffilmiau acsiwn ac yn caru coginio.

Beth ydych chi’n caru am weithio yn Aberystwyth? / Beth ydych chi’n gobeithio ei wneud yn ystod eich misoedd cyntaf?:

Rwy wrth fy modd yn gweithio yn Aberystwyth, mae’n dref fyfyrwyr bywiog a does dim curo ei golygfeydd o’r môr – yn enwedig ar ddiwrnod glas clir! Yn ystod fy misoedd cyntaf yn y rôl hon, rwy’n gobeithio dod i nabod y tîm a dysgu cymaint ag y gallaf, rhywbeth a fydd yn fy helpu i ragori yn y rôl wrth i fi fynd yn fy mlaen.

Tasech chi ddim yn eich rôl UM... beth fyddech chi?:

Trefnydd gwyliau.

Cyn gweithio yma, ydych chi wedi cael llawer o brofiad gydag undeb myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?:

Rwy newydd dreulio 12 mis yn gweithio fel intern graddedig ym Mhrifysgol Caerwysg yn asesu ceisiadau am amgylchiadau caledi oddi wrth grwpiau myfyrwyr gwahanol. Mae’r rôl hon wedi agor fy llygaid i’r anawsterau mae grwpiau myfyrwyr gwahanol yn gallu eu hwynebu ac oedd cael cynnig cymorth yn werthfawr. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael cynnig fy nghymorth i drefnu profiadau byth gofiadwy ar gyfer myfyrwyr yn UMAber.

Rhowch ffaith ddiddorol amdanoch chi i ni (rhywbeth a allai fod yn syndod i bobl):

Rwy’n perthyn i Charles Babbage, y dyn a ddatblygodd gysyniad o’r cyfrifiadur.

Pam wnaethoch chi ymuno â’r tîm yma yn UMAber?:

Rwy wastad wedi bod eisiau gweithio yn UMAber a bod yn rhan o dîm sydd yn gallu cynnig gwahanol gyfleoedd i fyfyrwyr a chynnig cymorth i fyfyrwyr fod yn hapus ac iach. Rwy eisiau cefnogi UMAber mewn gwireddu eu haddewidion, gan gynnwys helpu myfyrwyr i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau oes.

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576